VOOZH about

URL: https://cy.wikipedia.org/wiki/Aber-carn

⇱ Aber-carn - Wicipedia


Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
Aber-carn
👁 Image
Cofeb diweddar i'r 268 o lowyr a fu farw yn y lofa ar 11 Medi 1878
Mathtref, cymuned 👁 Edit this on Wikidata
Poblogaeth5,352, 5,446, 4,793 👁 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBwrdeistref Sirol Caerffili 👁 Edit this on Wikidata
Gwlad👁 Baner Cymru
 Cymru
Arwynebedd1,650.87 ha 👁 Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.6456°N 3.13447°W 👁 Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000725 👁 Edit this on Wikidata
Cod OSST216947 👁 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruRhianon Passmore (Llafur)
AS/au y DURuth Jones (Llafur)
👁 Map

Thref fechan a chymuned ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, Cymru, yw Aber-carn[1] neu Abercarn.[2] Saif 10 milltir (16 km) i'r gogledd orllewin o Gasnewydd ar ffordd yr A467 rhwng Cwmcarn a Threcelyn. Cyn i'r siroedd gael eu hail-drefnu ym 1974, roedd yn rhan o'r hen Sir Fynwy, ac wedyn hyd at 1996 roedd yng Ngwent.

Roedd poblogaeth o 4793 yn ystod cyfrifiad 2001.[3]

Mae'r dref yn gorwedd yng nghanol dyffryn Afon Ebwy, ar ymyl de-ddwyreiniol ardal mwyngloddio Morgannwg a Sir Fynwy. Mae Caerdydd 18.2 km i ffwrdd o Abercarn ac mae Llundain yn 210.4 km. Y ddinas agosaf ydy Casnewydd sy'n 11.6 km i ffwrdd.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Rhianon Passmore (Llafur)[4] ac yn Senedd y DU gan Ruth Jones (Llafur).[5]

Trychineb Abercarn, 1878

[golygu | golygu cod]

Yn hanesyddol, mae'r ardal yn gysylltiedig â maes glo De Cymru, gweithfeydd dur a phlat tun a Chymoedd De Cymru, ond mae rhain i gyd wedi cau erbyn hyn. Yma y safodd Glofa'r Prince of Wales, lle bu'r trydydd trychineb gwaethaf yn hanes Cymru, pan laddwyd 268 o weithwyr ar 11 Medi 1878.

Achoswyd trychineb Abercarn ar 11 Medi 1878, gan lamp ddiogelwch, gan gynnau ffrwydrad enfawr yn y pwll glo. Roedd 325 o weithwyr o dan y ddaear ar y pryd, ac anfonwyd timau achub i'r pwll i chwilio am oroeswyr yng nghanol y mwg, y fflamau a'r rwbel.[6] Bu farw tua 268 o ddynion a bechgyn yn y trychineb, a phenderfynwyd cau'r siafft, gan ei gorlifo â dŵr i ddiffodd y fflamau. O ganlyniad, arhosodd cyrff y rhai a fu farw yn y digwyddiad o dan y ddaear. Heddiw fe'u cofir yn lleol gyda charreg goffa ym mynwent Abercarn a olwyn fawr y pwll a murlun efydd ar safle'r trychineb.

👁 Image
Glofa Tywysog Cymru cyn 1878

Roedd yn rhan o blwyf hynafol Mynyddislwyn tan yn hwyr yn y 19eg ganrif. Ffurfiwyd bwrdd iechyd ac ardal llywodraeth leol Abercarn ym 1892.[7] Trodd hwn yn ardal trefol Abercarn ym 1894, o dan lywodraeth cyngor lleol gyda 12 o gynghorwyr, ac roedd yr ardal drefol yn cynnwys Crymlyn a Threcelyn. Diddymwyd yn 1974 o dan Ddeddf Llywodraeth Lleol 1972, gan ddod yn rhan o fwrdeistref Islwyn, Gwent. Daeth yn rhan o Fwrdeistref Sirol Caerffili yn dilyn ad-drefnu 1996.

Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[8][9][10][11]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Abercarn (pob oed) (5,352) 100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Abercarn) (600) 11.7%
:Y ganran drwy Gymru 19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Abercarn) (4680) 87.4%
:Y ganran drwy Gymru 73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Abercarn) (776) 34.6%
:Y ganran drwy Gymru 67.1%

Chwaraeon

[golygu | golygu cod]

Mae Abercarn yn gartref i Abercarn RFC, sy'n aelod o Undeb Rygbi Cymru.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 21 Chwefror 2022
  3. (Saesneg) Office for National Statistics Parish Headcounts: Abercarn Archifwyd 2014-03-13 yn y Peiriant Wayback
  4. Gwefan Senedd Cymru
  5. Gwefan Senedd y DU
  6. [https://www.thenational.wales/news/19570846.remembering-abercarn-mining-disaster-1878/[dolen farw] www.thenational.wales arlein; adalwyd 22 Tachwedd 2021.
  7. Ffurfiwyd o dan enw Trecelyn ar 17 Mawrth 1892, ailenwyd yn Abercarn ar 4 Gorffennaf yr un flwyddyn. Adroddiad Cyfrifiad y Sir 1970, (yr hen Sir Fynwy)
  8. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  9. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  10. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  11. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
gw  sg  go
Trefi a phentrefi Bwrdeistref Sirol Caerffili

Trefi
 · Bargod  · Bedwas  · Caerffili  · Coed-duon  · Crymlyn  · Rhisga  · Rhymni  · Ystrad Mynach
Pentrefi
Aberbargoed  · Abertridwr  · Abertyswg  · Argoed  · Bedwellte  · Brithdir  · Cefn Hengoed  · Cwm-carn  · Draethen  · Fochriw  · Gelli-gaer  · Y Groes-wen  · Hengoed  · Llanbradach  · Machen  · Maesycwmer  · Nelson  · Pengam  · Penpedairheol  · Pontlotyn  · Pontllan-fraith  · Pont-y-meistr  · Rhydri  · Senghennydd  · Trecelyn  · Tredegar Newydd  · Tretomos  · Ty'n-y-coedcae  · Wyllie  · Ynys-ddu