VOOZH about

URL: https://cy.wikipedia.org/wiki/Adam_West

⇱ Adam West - Wicipedia


Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
Adam West
👁 Image
FfugenwAdam West 👁 Edit this on Wikidata
GanwydWilliam West Anderson 👁 Edit this on Wikidata

19 Medi 1928 👁 Edit this on Wikidata

Walla Walla 👁 Edit this on Wikidata
Bu farw9 Mehefin 2017 👁 Edit this on Wikidata

Los Angeles 👁 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America 👁 Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethactor llais, digrifwr, cyflwynydd, actor teledu, actor 👁 Edit this on Wikidata
Adnabyddus amBatman, Family Guy, The Simpsons, Tylwyth Od Timmy, The Big Bang Theory, season 9 👁 Edit this on Wikidata
Arddully Gorllewin Gwyllt 👁 Edit this on Wikidata
Gwobr/auTV Land Award, Seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobr Inkpot 👁 Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.adamwest.com 👁 Edit this on Wikidata

Roedd Adam West (19 Medi 19289 Mehefin 2017) yn actor, cyfarwyddwr ac artist llais o'r Unol Daleithiau. Roedd yn fwyaf adnabyddus am ei rôl fel Batman yn y gyfres deledu Batman o’r 1960au ac fel tros-lesisydd cymeriad y maer Adam West yn y gyfres cartŵn Family Guy.

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Ganwyd West yn Walla Walla, Washington yn fab i Otto West Anderson, ac Audrey Speer ei wraig. Roedd ei mam o dras Gymreig. Ffermwr oedd ei dad a chantores opera oedd ei fam.[1]

Cafodd ei addysg yn ysgol uwchradd Walla Walla, a Choleg Whitman.

Bu’n briod i Billie Lou Yeager o 1950 hyd eu hysgariad ym 1955. Yna priododd Frisby Dawson ym 1957 cyn ei hysgaru ym 1962 , a phriodi Marcella Tagland Lear ym 1970. Bu’n dad i chwech o blant.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Tooley, James E. (director) (2013). Starring Adam West (Documentary). Unol Daleithiau America: Chromatic Films.