VOOZH about

URL: https://cy.wikipedia.org/wiki/Afon_Medway

⇱ Afon Medway - Wicipedia


Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
Afon Medway
👁 Image
Mathafon 👁 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirArdal Canol Sussex, Bwrdeistref Tonbridge a Malling, Medway 👁 Edit this on Wikidata
Gwlad👁 Baner Lloegr
 Lloegr
Cyfesurynnau51.4492°N 0.7383°E, 51.1767°N 0.1475°W, 51.4492°N 0.7383°E 👁 Edit this on Wikidata
TarddiadTurners Hill 👁 Edit this on Wikidata
AberAfon Tafwys 👁 Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Eden, East Malling Stream, Loose Stream, Afon Beult, Afon Bourne, Afon Len, Afon Teise, Wateringbury Stream 👁 Edit this on Wikidata
Dalgylch2,409 cilometr sgwâr 👁 Edit this on Wikidata
Hyd113 cilometr 👁 Edit this on Wikidata
Arllwysiad90 ±0.001 metr ciwbic yr eiliad 👁 Edit this on Wikidata
👁 Map

Afon yng Nghaint gyda hyd byr yng Ngorllewin Sussex, De-ddwyrain Lloegr, yw Afon Medway. Mae'n codi yn y Weald yng Ngorllewin Sussex ger pentref Turners Hill, ac yn llifo tua'r gogledd ac wedyn i'r dwyrain am 110 km (70 mi) trwy Gaint i aberu yn Afon Tafwys ger Sheerness. Ar ei ffordd mae'n llifo trwy Tonbridge, Maidstone, Rochester, Chatham a Gillingham. Mae ganddi ddalgych o 2,400 km² (930 mi²) – y dalgylch ail fwyaf yn ne Lloegr ar ôl Afon Tafwys – sy'n cynnwys chwe phrif isafon a llawer o lednentydd llai.

Dyma'r prif isafonydd:

Yn y gorffennol roedd yr afon yn bwysig fel ffordd o gludo nwyddau, a byddai cychod trwm yn mynd i fyny'r afon cyn belled â Tonbridge. Mae un ar ddeg o lociau rhwng Allington a Tonbridge

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]
👁 Image
Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth Lloegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.