| Alexander Graham Bell | |
|---|---|
| 👁 Image | |
| Llais | Alexander Graham Bell's Voice.ogg 👁 Edit this on Wikidata |
| Ganwyd | 3 Mawrth 1847 👁 Edit this on Wikidata Caeredin 👁 Edit this on Wikidata |
| Bu farw | 2 Awst 1922 👁 Edit this on Wikidata o diabetes 👁 Edit this on Wikidata Beinn Bhreagh 👁 Edit this on Wikidata |
| Man preswyl | Brodhead-Bell-Morton Mansion 👁 Edit this on Wikidata |
| Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon 👁 Edit this on Wikidata |
| Addysg | Doctor of Sciences 👁 Edit this on Wikidata |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | ffisegydd, peiriannydd trydanol, peiriannydd, person busnes, dyfeisiwr, athro cadeiriol 👁 Edit this on Wikidata |
| Swydd | athro cadeiriol, aelod o fwrdd 👁 Edit this on Wikidata |
| Cyflogwr | |
| Adnabyddus am | invention of telephone 👁 Edit this on Wikidata |
| Taldra | 183 centimetr 👁 Edit this on Wikidata |
| Pwysau | 111 cilogram 👁 Edit this on Wikidata |
| Tad | Alexander Melville Bell 👁 Edit this on Wikidata |
| Mam | Eliza Bell 👁 Edit this on Wikidata |
| Priod | Mabel Gardiner Hubbard Bell 👁 Edit this on Wikidata |
| Plant | Elsie May Grosvenor, Marian Fairchild 👁 Edit this on Wikidata |
| Gwobr/au | Gwobr Edison, Gwobr Elliott Cresson, Medal Hughes, Gwobr 'Hall of Fame' am Hedfan, Oriel yr Anfarwolion Genedlaethol Dyfeiswyr, Medal Albert, Gwobr 'Walk of Fame' Canada, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Member of the National Academy of Sciences of the United States, Medal John Fritz, Pobl o Bwys Hanesyddol Cenedlaethol 👁 Edit this on Wikidata |
| llofnod | |
| 👁 Image | |
Gwyddonydd, dyfeisiwr ac arloeswr blaengar o'r Alban oedd Alexander Graham Bell (3 Mawrth 1847 – 2 Awst 1922), sy'n cael ei gydnabod am ddyfeisio'r teleffôn. Roedd ei dad, ei dadcu a'i frawd i gyd wedi gwneud gwaith a oedd yn gysylltiedig â llefaru ac ynganu geiriau. Roedd ei fam a'i wraig yn gwbl fyddar, rhywbeth a ddylanwadodd yn fawr ar waith Bell.[1] Yn sgîl ei waith ymchwil ar glyw a llefaru, gwnaeth arbrofion gyda dyfeisiadau clyw ac yn ei dro, arweiniodd hyn at Bell yn derbyn y patent cyntaf yn yr Unol Daleithiau am y teleffôn cyntaf ym 1876.[2] Serch hynny, ystyriai Bell fod ei ddyfais enwocaf yn amharu ar ei waith go iawn fel gwyddonydd a gwrthododd gael teleffôn yn ei swyddfa.[3] Pan fu farw Bell, roedd ffônau ledled yr Unol Daleithiau wedi tawelu am funud fel teyrnged i'r gwr a'u crëodd.[4]
Yn ystod bywyd Bell, dyfeisiodd eitemau eraill hefyd gan gynnwys ei waith arloesol ar hydroffoils ac aeronauteg. Ym 1888, daeth Bell yn un o sefydlwyr y Gymdeithas National Georgraphic.[5]
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd Alexander Bell yng Nghaeredin, Yr Alban ar 3 Mawrth 1847.[3] Roedd ef a'i deulu'n byw yn 16 Stryd South Charlotte, Caeredin, Yr Alban a bellach ceir yno gofnod ar riniog y drws mai yn y fan honno y ganed Bell. Roedd ganddo ddau frawd: Melville James Bell (1845–1870) ac Edward Charles Bell (1848–1867). Bu farw ei ddau frawd o'r diciâu, Edward ym 1867 a Melville ym 1870.[6] Enw ei dad oedd yr Athro Alexander Melville Bell, a'i fam oedd Eliza Grace (née Symonds).[6] Er iddo gael ei eni fel "Alexander", pan oedd yn ddeg oed, plediodd ar ei dad i roi enw canol iddo fel oedd gan ei frodyr. Ar ei 11eg benblwydd, cytunodd ei dad a chafodd yr enw canol "Graham", enw a ddewiswyd o'i edmygedd at Alexander Graham, gwr o Giwba a gafodd ei drin gan ei dad ac a ddaeth yn ffrind i'r teulu.[7]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Gwefan About.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-11-03. Cyrchwyd 2008-10-18.
- ↑ Dogfen Patent Bell[dolen farw]
- ↑ 3.0 3.1 Answers.com
- ↑ "Erthygl More About Bell". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-10-25. Cyrchwyd 2008-10-18.
- ↑ Erthygl y BBC
- ↑ 6.0 6.1 Notable Biographies
- ↑ Kids Newsroom[dolen farw]
- Articles with hCards
- Erthyglau sy'n defnyddio Nodyn Gwybodlen person Wicidata
- AC with 15 elements
- Wikipedia articles with VIAF identifiers
- Wikipedia articles with LCCN identifiers
- Wikipedia articles with ISNI identifiers
- Wikipedia articles with GND identifiers
- Wikipedia articles with BNF identifiers
- Wikipedia articles with BIBSYS identifiers
- Wikipedia articles with ULAN identifiers
- Wikipedia articles with NLA identifiers
- Wikipedia articles with faulty authority control identifiers (SBN)
- Wikipedia articles with ODNB identifiers
