VOOZH about

URL: https://cy.wikipedia.org/wiki/Anabledd

⇱ Anabledd - Wicipedia


Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
Anabledd
👁 Image
Symbolau anabledd
Mathnodwedd 👁 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysanabledd corfforol, anabledd meddwl, anabledd deallusol, disability affecting intellectual abilities, anabledd datblygiad 👁 Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/0fl5x 👁 edit this on wikidata
👁 Tudalen Comin
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Anabledd yw cyflwr lle mae un o gyneddfau person yn sylweddol llai effethiol na'r cyffredin i unigolyn yn eu dosbarth. Gall gyfeirio at anabledd corfforol, er enghraifft anallu i gerdded, dallineb, byddardod ac eraill, neu anabledd meddyliol.

Gall unigolion gael eu geni gydag anabledd neu gallant gael anabledd ar unrhyw gyfnod o'u bywyd o ganlyniad i ddamwain, clefyd neu ddirywiad y corff.[1]

Ar 13 Rhagfyr 2006, cytunodd y Cenhedloedd Unedig ar Gytundeb Hawliau Pobl Anabl, cytundeb hawliau dynol cyntaf yr 21ain ganrif. Credir fod tua 650 miliwn o bobl anabl trwy'r byd. Bydd disgwyl i wledydd sy'n arwyddo'r cytundeb ofalu bod eu cyfreithiau yn sicrhau fod gan bobl anabl yr un mynediad at addysg, cyflogaeth a bywyd diwylliannol, yr hawl i berchenogi ac etifeddu eiddo a thriniaeth gydradd o ran priodas a phant.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 740: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).
👁 Image
Eginyn erthygl sydd uchod am iechyd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato