| 👁 Image | |
| Math | fruit bread, bwyd 👁 Edit this on Wikidata |
|---|---|
| Deunydd | baker's yeast 👁 Edit this on Wikidata |
| Rhan o | Coginiaeth yr Ariannin, Coginiaeth Cymru 👁 Edit this on Wikidata |
| Enw brodorol | bara brith 👁 Edit this on Wikidata |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/04x9ny 👁 edit this on wikidata |
| 👁 Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia | |
Bara llaith o Gymru sy'n cynnwys cyrens, rhesins neu syltanas, croen candi, a sbeis melys yw bara brith. Gweinir yn dafellau gyda menyn gan amlaf, am de'r prynhawn neu de mawr. Teisen furum yw bara brith yn draddodiadol, ond mae nifer o ryseitiau modern yn defnyddio ychwanegion megis soda pobi i'w lefeinio.[1]
Yn wreiddiol câi bara brith ei pharatoi ar ddiwrnod pobi bara trwy ychwanegu siwgr, bloneg, ffrwythau sych a sbeis at does. Yn raddol, datblygodd y cymysgedd yn un fwy cyfoethog a defnyddiwyd burum i'w godi. Daeth y torth yn deisen amser te ar gyfer achlysuron arbennig mewn cymunedau amaethyddol a diwydiannol, megis y cynhaeaf gwair neu lafur, diwrnod dyrnu neu gneifio, a'r Nadolig.[2] Yng nghymoedd diwydiannol y de-ddwyrain yr enw arni yw teisen dorth.[3]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Alan Davidson. The Oxford Companion to Food, 3ydd argraffiad gol. Tom Jaine (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2014), t.62
- ↑ S. Minwel Tibbott, Geirfa'r Gegin (Amgueddfa Werin Cymru, 1983), t.2
- ↑ Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2008), s.v. "Bara brith"
