VOOZH about

URL: https://cy.wikipedia.org/wiki/Bwdha

⇱ Bwdha - Wicipedia


Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
Bwdha
πŸ‘ Image
Enghraifft o:cysyniad crefyddol, teitl parchusol, teitl πŸ‘ Edit this on Wikidata
Matharya, cymeriad crefyddol, cymeriadau chwedlonol πŸ‘ Edit this on Wikidata
Enw brodorol𑀩𑀼𑀀𑁆π‘€₯ πŸ‘ Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/017mxt πŸ‘ edit this on wikidata
QuoraBuddhahood πŸ‘ edit this on wikidata
πŸ‘ Tudalen Comin
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Mae'r erthygl yma yn trafod y syniad o Fwdha. Am sylfaenydd Bwdhaeth, gweler Siddhartha Gotama.
πŸ‘ Image
Bwdha yn eistedd, o gyfnod Tang yn Tsieina, talaith Hebei.

Yng nghrefydd Bwdhaeth, Bwdha yw unrhyw fod sydd wedi ennill Goleuedigaeth ac wedi profi Nirfana.

Yn y Canon Pali a thraddodiad y Theravada, mae Bwdha fel rheol yn golygu rhywun sydd wedi dod yn oeleuedig trwy ei ymdrechion ei hun, heb athro. Gelwir y rhai sydd wedi dod yn oleuedig trwy ddysgeidiaeth Bwdha yn Arahant. Yn nhraddodiad y Mahayana, defnyddir "Bwdha" am unrhyw un sydd wedi dod yn oleuedig. Y term sy'n cyfateb i'r gair Arahant yn y Mahayana yw Bodhisattva, sy'n dynodi un sydd wedi gohirio fod yn Fwdha er mwyn cynorthwyo eraill ar y ffordd.

Er mai Siddhartha Gotama yw'r Bwdha enwocaf, nid yw'r un o'r traddodiadau yn ystyried mai ef oedd yr unig un. Yn y traddodiad Theravada, ystyrir fod cryn nifer o rai eraill wedi bod o'i flaen, 28 yn Γ΄l un traddodiad, tra mae'r traddodiad Mahayana yn ystyried fod modd i Fwdha fod yn fod goruwchnaturiol hefyd, megis Amitabha neu Vairocana. Credir mai enw'r Bwdha nesaf fydd Maitreya (Pali: Metteyya).

πŸ‘ Image
Eginyn erthygl sydd uchod am Fwdhaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.