VOOZH about

URL: https://cy.wikipedia.org/wiki/Canolbarth_America

⇱ Canolbarth America - Wicipedia


Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
Canolbarth America
👁 Image
Enghraifft o:isgyfandir, ardal ddiwylliannol 👁 Edit this on Wikidata
Poblogaeth180,095,918 👁 Edit this on Wikidata
Rhan oYr Amerig 👁 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysBelîs, Costa Rica, El Salfador, Gwatemala, Hondwras, Nicaragwa, Panamâ, Y Caribî 👁 Edit this on Wikidata
👁 Map
Dynodwyr
Freebase/M/01tzh 👁 edit this on wikidata
👁 Tudalen Comin
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
👁 Image
Canolbarth America

Mae Canolbarth America yn rhanbarth ddaearyddol ar gyfandir yr Amerig sy'n gorwedd rhwng rhan ogleddol Gogledd America a De America. Mae'n gorwedd rhwng ffin ogleddol Gwatemala a ffin ogledd-orllewinol Colombia ac yn cynnwys tua 596,000 km² (230,000 milltir sgwâr) o dir. Mae'r tywydd yn drofaol ac mae'r rhanbarth yn dioddef corwyntoedd cryf weithiau.

Mae Canolbarth America yn cynnwys saith gwlad, o'r gogledd i'r de:

Daearyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Mae Canolbarth America yn rhanbarth fynyddig. Ceir nifer o losgfynyddoedd, yn cynnwys Tajumulco sy'n codi i 4210m (13,846'). Mae ei hardaloedd arfordirol yn ffrwythlon a thyfir nifer o gnydau, er enghraifft bananas, coffi a coco. Mae'r rhan fwyaf o'r trigolion o dras gymysg Ewropeiaidd a brodorol.

Cyn ymddangosiad yr Ewropeiaid cyntaf bu rhannau o Ganolbarth America yn gartref i wareiddiaid brodorol hynod, er enhgraifft penrhyn Yucatan. Syrthiodd y tir i feddiant Sbaen (ac eithrio Belîs ac ambell fan arall). Yn gynnar yn y 19g cafodd gwledydd y rhanbarth annibyniaeth ar Sbaen a ffurfiodd Costa Rica, El Salfador, Gwatemala, Hondwras a Nicaragwa Cynghrair Canolbarth America (neu 'Taleithiau Unedig Canolbarth America') (1823 - 1838). Yn 1960 ffurfiodd y gwledydd hyn Marchnad Gyffredin Canolbarth America.

gw  sg  go
Gwledydd
gw  sg  go
Rhanbarthau'r Ddaear

👁 Image

Affrica

Canolbarth · De · Dwyrain · Gogledd · Gorllewin

👁 Image

Yr Amerig

 · Y Caribî · De · Gogledd

👁 Image

Asia

Canolbarth · De · De-ddwyrain · De-orllewin · Dwyrain · Gogledd

👁 Image

Ewrop

Canolbarth · De · Dwyrain · Gogledd · Gorllewin

👁 Image

Oceania

Awstralasia · Melanesia · Micronesia · Polynesia

👁 Image

Y Pegynau

Yr Antarctig · Yr Arctig

Arall
 

Asia-Cefnfor Tawel · Isgyfandir India  · Y Dwyrain Canol · Y Dwyrain Pell · America Ladin
 

👁 Image

Cefnforoedd

Arctig · Byd · De · India · Iwerydd · Tawel

Gweler hefyd: Cyfandiroedd y Ddaear