Mae ceffalecsin yn wrthfiotic y gellir ei ddefnyddio i drin nifer o heintiau bacteriol.[1] Y fformiwla cemegol ar gyfer y cyffur hwn yw CโโHโโNโOโS.
Gwybodaeth gyffredinol
[golygu | golygu cod]Mae cefalexin yn lladd bacteria gram-gadarnhaol ac ambell i facteriwm gram-negyddol trwy amharu ar wal eu celloedd. Mae cefalexin yn antibiotig beta-lactam o fewn y dosbarth o gephalosporinau genhedlaeth gyntaf. Mae'n gweithio'n debyg i asiantau eraill o fewn y dosbarth hwn, gan gynnwys cefazolin mewnwythiennol, ond gellir cymryd cefalexin trwy'r genau
Defnydd
[golygu | golygu cod]Gall cefalexin drin heintiau bacteriol, gan gynnwys rhai'r glust ganol, yr esgyrn a'r cymalau, y croen a'r llwybr wrinol. Gellir ei ddefnyddio hefyd ar gyfer rhai mathau o niwmonia, llid y ffaryncs, ac i atal endocarditis bacteriol. Nid yw cefalexin yn effeithiol yn erbyn heintiau a achosir gan Staphylococcus aureus ymwrthiol i fethisilin (MRSA), Enterococcus, neu Pseudomonas. Fel gwrthfiotigau eraill, ni all cefalexin drin heintiau firaol, fel y ffliw, broncitis nac annwyd cyffredin. Gall y rhai sydd ag alergedd ysgafn neu gymedrol i benisilin defnyddio cefalexin ond nid yw'n cael ei argymell yn y rhai sydd ag alergedd difrifol.[2]
Sgil effeithiau
[golygu | golygu cod]Mae sgil effeithiau cyffredin yn cynnwys poen bรดl a'r dolur rhydd. Mae adweithiau alergaidd neu gael heintiau รข Chlostridium difficile, sy'n achosi dolur rhydd, hefyd yn bosibl. Nid yw'n ymddangos bod y defnydd yn ystod beichiogrwydd neu fwydo ar y fron yn niweidiol i'r babi. Gellir ei ddefnyddio ar gyfer plant[3] a'r rhai dros 65 oed. Efallai y bydd angen gostyngiad yn y dos mewn cleifion sydd รข phroblemau arennau.
Hanes
[golygu | golygu cod]Datblygwyd ceffalecsin ym 1967. Mae ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, y meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd.
Defnydd meddygol
[golygu | golygu cod]Fe'i rhoddir fel triniaeth ar gyfer gwahanol gyflyrau meddygol, gan gynnwys:
Enwau
[golygu | golygu cod]Caiff cyffuriau eu hadnabod gan amryw o enwau gwahanol yn aml. Enw cemegol y cyffur hwn yw Ceffalecsin, ond rhoddir enwau masnachol a brand iddo hefyd, gan gynnwys;
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- โ Pubchem. "Ceffalecsin". pubchem.ncbi.nlm.nih.gov (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-02-28.
- โ Medicines Cefalexin 500mg Capsules adalwyd 27 Chwefror 2018
- โ Medicines for children Cefalexin for bacterial infections Archifwyd 2018-01-13 yn y Peiriant Wayback adalwyd 27 Chwefror 2018
| Cyngor meddygol |
|
Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir. Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch รข'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall! |
