VOOZH about

URL: https://cy.wikipedia.org/wiki/Chris_Stuart

⇱ Chris Stuart - Wicipedia


Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
Chris Stuart
Ganwyd19 Chwefror 1949 👁 Edit this on Wikidata

Durham 👁 Edit this on Wikidata
Bu farw13 Gorffennaf 2022 👁 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth👁 Baner Lloegr
 Lloegr 👁 Baner Cymru
 Cymru
Alma mater
Galwedigaethnewyddiadurwr, troellwr recordiau ar y radio, cyfansoddwr caneuon 👁 Edit this on Wikidata

Roedd Christopher Elliot Stuart (Chwefror 194913 Gorffennaf 2022) yn newyddiadurwr, cyfansoddwr caneuon, cyflwynydd a chynhyrchydd radio a theledu o Loegr.

Roedd yn adnabyddus fel un o gyflwynwyr cyntaf BBC Radio Wales.[1] Roedd e'n gynhyrchydd gweithredol cyfres gwis BBC Two Only Connect. Fel cyflwynydd bu’n arwain y rhaglen frecwast cynnar ar BBC Radio 2 rhwng 1988 a 1991.[2]

Cafodd Stuart ei eni yn Ninas Durham Cafodd ei fagu yn Swydd Nottingham a Swydd Gaerlŷr. Darllenodd wleidyddiaeth, athroniaeth ac economeg yn New College, Rhydychen, ac wedi graddio symudodd i Gymru lle y dechreuodd weithio fel newyddiadurwr i'r Western Mail. Roedd yn aelod o'r band comedi "Baby Grand", a gafod dwy gyfres deledu ar BBC Two a rhyddhaodd albwm ar label Decca. Gyda'i wraig Megan, sefydlodd y cwmni cynhyrchu Presentable.[3] Bu farw Stuart yn 73 oed.[4]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Chris Stuart: Ex-BBC Radio Wales presenter dies aged 73". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 13 Gorffennaf 2022.
  2. McCarthy, James. "Tributes pour in for Radio 2 star Sir Terry Wogan". Wales Online (yn Saesneg).
  3. Williamson, David. "Presentable dealt a golden hand with big money sale". Wales Online (yn Saesneg).
  4. Amy Denman; Aaron Morris (13 Gorffennaf 2022). "Durham-born BBC Radio 2 DJ Chris Stuart dies aged 73 - leading to tributes from colleagues". Chronicle Live (yn Saesneg). Cyrchwyd 15 Gorffennaf 2022.