| ๐ Image | |
| Math | safle archaeolegol ๐ Edit this on Wikidata |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Powys ๐ Edit this on Wikidata |
| Gwlad | ๐ Baner Cymru Cymru |
| Cyfesurynnau | 52.9867ยฐN 3.0286ยฐW ๐ Edit this on Wikidata |
| ๐ Map | |
Clawdd a ffos sy'n rhedeg yn gyfochrog a'r ffin bresennol rhwng Cymru a Lloegr yw Clawdd Wat, mae hefyd yn rhedeg yn gyfochrog a Chlawdd Offa, er ei fod cryn dipyn yn llai. Tua 40 milltir yw ei hyd: o Abaty Dinas Basing ar lan yr Afon Ddyfrdwy yn y gogledd, heibio Croesoswallt ac i Maesbury yn Swydd Amwythig, sef diwedd ei ran ddeheuol. Ar adegau mae'n cydredeg o fewn ychydig fetrau i Glawdd Offa.[1]
Dyddio
[golygu | golygu cod]Er y dyddiwyd rhan wedi'i losgi ohono gyda dulliau dyddio carbon, mae cryn ddadlau ai dyma'r adeg y codwyd y clawdd, neu a ydyw'n perthyn i gyfnod diweddarach.[2] Yn 2006 cafwyd cloddfa archaeolegol a chredir bellach i'r clawdd gael ei gloddio rhwng 792-852. Oherwydd ein bod yn gwybod ychydig am hanes y cyfnod hwn, mae'n bur debyg y gallem ddyddio'r clawdd i'r 820au pan oedd Coenwulf yn ymladd yn yr ardal yma yn erbyn y Cymry.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- โ Keith Nurse (2001). "Wat's In A Name?". Cyrchwyd 24 Gorffennaf 2012.
- โ Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 740: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).
- โ ""Wat's Dyke Dated: Was it Coenwulf's Dyke?" British Archaeology, Tach./Rhagf. 2007". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-04-19. Cyrchwyd 2012-07-24.
- โ Streetmap
