VOOZH about

URL: https://cy.wikipedia.org/wiki/Crib_Nantlle

⇱ Crib Nantlle - Wicipedia


Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
Crib Nantlle
Mathcadwyn o fynyddoedd 👁 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolEryri 👁 Edit this on Wikidata
Gwlad👁 Baner Cymru
 Cymru
Cyfesurynnau53°N 4.2°W 👁 Edit this on Wikidata
👁 Map

Crib Nantlle yw'r enw a roddir i gyfres o fryniau yn Eryri yng Ngwynedd, sy'n ymestyn i'r de-orllewin o bentref Rhyd-Ddu am tua 9 km gan orffen uwchben Talysarn a Nebo. Y grib yma sy'n ffurfio ffin ddeheuol Dyffryn Nantlle, tra mae Cwm Pennant i'r de ohoni.

👁 Image
Y Garn gerllaw Rhyd Ddu yw'r man cychwyn arferol i gerdded Crib Nantlle.

Gan ddechrau gerllaw Rhyd-Ddu, mae Crib Nantlle yn cynnwys y bryniau canlynol: Y Garn (633m), Mynydd Drws-y-Coed (695m), Trum y Ddysgl (709m), Mynydd Tal-y-Mignedd (653m), Craig Cwm Silyn (734m), Garnedd-goch (701m) a Mynydd Craig Goch (609m).

Mae llawer llai o gerddwyr a dringwyr ar Grib Nantlle nag yn y rhannau mwyaf poblogaidd o Eryri megis Yr Wyddfa neu Dryfan. Gellir cerdded y grib o'r ddau ben, ond cychwyn o Ryd-Ddu yw'r dull mwyaf poblogaidd. Er nad yw'r grib yn anodd iawn yn dechnegol, mae angen gofal mewn mannau.

Does dim gwasanaethau bws ar hyd Dyffryn Nantlle, ond mae gwasanaeth tacsi am isafswm tâl o £5.00, a gefnogir gan y cyngor a sefydliadau eraill.[1]

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Cymdeithas y Cerddwyr". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd 2011-04-05.