VOOZH about

URL: https://cy.wikipedia.org/wiki/Cudyll_bach

⇱ Cudyll bach - Wicipedia


Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
Cudyll bach
👁 Image
Ceiliog
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Falconiformes
Teulu: Falconidae
Genws: Falco
Rhywogaeth: F. columbarius
Enw deuenwol
Falco columbarius
Linnaeus, 1758

Mae'r Cudyll bach neu'r Llam-sydyn (Falco columbarius) yn aderyn ysglyfaethus bychan sy'n nythu trwy rannau helaeth o Ewrop, Asia a Gogledd America.

Adeiledir y nyth un ai ar lawr ar dir agored neu mewn coeden sy'n agos i dir agored. Yn y rhannau hynny lle mae'r gaeafau'n oer mae'n aderyn mudol, yn symud i'r de neu tua'r gorllewin i dreulio'r gaeaf. Lle nad yw'r gaeafau mor oer mae'n aros trwy'r flwyddyn ond yn aml yn symud o'r ucheldiroedd i dreulio'r gaeaf o gwmpas gan y môr.

Mae'r ceiliog y llwydlas ar y cefn a gwawr oren ar y bol. Mae'r iâr, sydd gryn dipyn yn fwy na'r ceiliog, yn frown tywyll ar y cefn ac yn wyn gyda smotiau brown ar y bol.

Prif fwyd y Gwalch bach yw adar bychain, megis ehedyddion a chorhedyddion, sy'n cael eu dal trwy hedfan yn isel ac yn gyflym dros dir agored. Ambell dro mae'n dal pryfed.

Nid yw'n aderyn cyffredin iawn yng Nghymru, ond mae cryn nifer yn nythu ar yr ucheldiroedd, er enghraifft ar Y Berwyn, ac maent i'w gweld yn rheolaidd ger glannau'r môr yn y gaeaf. Credir bod ei niferoedd yn sefydlog.

Heboca yn yr Oesoedd Canol

[golygu | golygu cod]

Yn nhraethawd doethuriaeth Howard WillamsAdar yng Ngwaith y Cywyddwyr (2014) dau gyfeiriad yn unig i’r Cudyll coch sydd, o’i gymharu a 9 cyfeiriad at y Cudyll bach. Arwydd yw hwn, o bosib, nas defnyddid y cudyll coch i ddibenion heboca yn yr Oesoedd Canol cymaint ac y defnyddid ei gefnder llai. Roedd un o'r ddau gyfeiriadau hefyd yn ddigon amwys: meddai Howard, “Nid yw’n anodd credu mai aderyn cyfansawdd a ddisgrifir ambell waith... Ni fyddai beirdd yr Oesoedd Canol yn unigryw yn hyn o beth. Dengys yr aderyn ysglyfaethus yn y gerdd enwog gan I. D. Hooson, ‘Y Cudyll Coch’, nodweddion a berthyn i dair rhywogaeth, sef y Boda a’r Gwalch glas yn ogystal â'r cudyll coch ei hun”.[1]

Mae'r cudyll coch Mauritius yn perthyn i deulu'r Hebogiaid (Lladin: Falconidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Caracara gyddf-felyn Daptrius ater
👁 Image
Caracara gyddfgoch Ibycter americanus
👁 Image
Corhebog adain fannog Spiziapteryx circumcincta
👁 Image
Hebog chwerthinog Herpetotheres cachinnans
👁 Image
Hebog yr Ehedydd Falco subbuteo
👁 Image
Neohierax insignis Neohierax insignis
👁 Image
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.
👁 Image
Falco columbarius subaesalon
  1. Bwlein 105 Tachwedd 2016; Cymdeithas Edward Llwyd; adalwyd 21 Tachwedd 2016.