| 👁 Image | |
| Math | peiran 👁 Edit this on Wikidata |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Gwynedd 👁 Edit this on Wikidata |
| Gwlad | 👁 Baner Cymru Cymru |
| Cyfesurynnau | 53.1137°N 4.0299°W 👁 Edit this on Wikidata |
| 👁 Map | |
Cwm yn Eryri yw Cwm Idwal; mae'r ffin rhwng Gwynedd a sir Conwy yn mynd trwy'r cwm.
Daearyddiaeth
[golygu | golygu cod]Saif y cwm ychydig i'r de-orllewin o Lyn Ogwen a phriffordd yr A5. Ynghanol y cwm mae Llyn Idwal, ac amgylchynir ef gan nifer o fynyddoedd, yn enwedig y Glyder Fawr a'r Garn. Mae'r afon fechan sy'n llifo o'r llyn yn llifo i mewn i Afon Ogwen.
Atyniadau
[golygu | golygu cod]Mae Cwm Idwal yn gyrchfan boblogaidd iawn i dwristiaid, cerddwyr a dringwyr mynyddoedd, ac mae llwybr yn arwain o gwmpas y llyn.
Ym mhen draw y cwm mae clogwyni serth Clogwyn y Geifr, gyda'r hollt enwog a elwir y Twll Du. Nodweddir y cwm gan olion rhewlif o Oes yr Iâ, sy'n ei wneud o ddiddordeb daearegol mawr.
Ceir amrywiaeth o blanhigion Arctig-alpaidd ar y clogwyni o gwmpas Cwm Idwal, yn cynnwys Lili'r Wyddfa (Lloydia serotina).
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]Llwybr Cwm Idwal, o safle we Parc Cenedlaethol Eryri Archifwyd 2007-09-28 yn y Peiriant Wayback
