VOOZH about

URL: https://cy.wikipedia.org/wiki/David_Livingstone

⇱ David Livingstone - Wicipedia


Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
David Livingstone
👁 Image
Ganwyd19 Mawrth 1813 👁 Edit this on Wikidata

Blantyre 👁 Edit this on Wikidata
Bu farw1 Mai 1873 👁 Edit this on Wikidata

o malaria 👁 Edit this on Wikidata

Ilala Hill 👁 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYr Alban, y Deyrnas Unedig 👁 Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethfforiwr, meddyg ac awdur, daearyddwr, ysgrifennwr, cenhadwr 👁 Edit this on Wikidata
PriodMary Livingstone 👁 Edit this on Wikidata
PlantAgnes Livingstone Bruce 👁 Edit this on Wikidata
PerthnasauRobert Moffat 👁 Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Medal y Noddwr, Grande Médaille d'Or des Explorations, Cymrodoriaeth y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol 👁 Edit this on Wikidata
llofnod
👁 Image

Cenhadwr a fforiwr o'r Alban oedd David Livingstone (19 Mawrth 18131 Mai 1873).

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Ganed ef yn Blantyre, Swydd Lanark, yn fab i Neil Livingstone (1788-1856) a'i wraig Agnes (1782-1865). Dechreuodd David weithio yn y felin gotwm leol. Yn 1836 aeth i Brifysgol Anderson, Glasgow, i astudio, ac yn fuan wedyn, derbyniwyd ei gais i ymuno â Chymdeithas Genhadol Llundain. Aeth i Lundain i astudio i fod yn feddyg. Yno cyfarfu a Robert Moffat, cenhadwr ar wyliao o Kuruman, De Affrica. Yn 1841, aeth Livingstone i Kuriman, yna yn 1844 symudodd i'r gogledd i ddechrau cenhadaeth yn Mabotswa. Yma, bu bron iddo gael ei ladd gan lew, a chafodd ei anafu yn ddifrifol.

Yn 1845, priododd Mary, merch Robert Moffat. Ganed eu merch, Agnes, yn 1847. Rhwng 1852 a 1856, bu'n fforio tua'r gogledd, ac ef oedd yr Ewropead cyntaf i weld rhaeadr Mosi-oa-Tunya, a enwyd yn Rhaeadr Victoria ganddo. Roedd yn un o'r Ewropeaid cyntaf i deithio ar draws Affrica, o Luanda i Quelimane.

O 1858 hyd 1864 bu'n arwain ymgyrch i fforio afon Zambezi. Dychwelodd i Affrica yn 1866, i Sansibar, i ddechrau ymgyrch i chwilio am darddle afon Nîl. Ef oedd yr Ewropead cyntaf, mae'n debyg, i weld Llyn Malawi. Gwnaeth lawer i geisio dileu y fasnach mewn caethweision yn nwyrain Affrica. Gan nad oedd newyddion amdano wedi cyrraedd Sansibar, yn 1869 gyrrwyd Henry Morton Stanley gan y New York Herald i chwilio amdano. Cafodd Stanley hyd iddo ar lan Llyn Tanganyika ar 10 Tachwedd 1871. Roedd Livingstone eisoes yn wael, a bu farw yn Ilala, yn awr yn Sambia.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]