| 👁 Image | |
| Math | pentref 👁 Edit this on Wikidata |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Dyrham and Hinton |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Swydd Gaerloyw (Sir seremonïol) |
| Gwlad | 👁 Baner Lloegr Lloegr |
| Cyfesurynnau | 51.4833°N 2.3667°W 👁 Edit this on Wikidata |
| 👁 Map | |
Pentref yn sir seremonïol Swydd Gaerloyw, De-orllewin Lloegr, yw Dyrham[1] (neu Caerweir). Fe'i lleolir ym mhlwyf sifil Dyrham and Hinton yn awdurdod unedol De Swydd Gaerloyw.
Mae'n gorwedd ger briffordd yr A46, tua 6.5 milltir (10.5 km) i'r gogledd o ddinas Caerfaddon a mymryn i'r de o'r M4. Mae llwybr y 'Cotswold Way' yn rhedeg trwy'r pentref.
Mae'n bosibl mai Dyrham oedd lleoliad Brwydr Dyrham (Brwydr Deorham) rhwng y Brythoniaid a'r Eingl-Sacsoniaid yn 577.
Ar gyrion y pentref ceir plasdy mawr Dyrham Park.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ British Place Names; adalwyd 3 Gorffennaf 2020
