VOOZH about

URL: https://cy.wikipedia.org/wiki/Germaniaid

⇱ Germaniaid - Wicipedia


Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
Germaniaid
👁 Image
Enghraifft o:grwp ethno-ieithog 👁 Edit this on Wikidata
Mathpobl Indo-Ewropeaidd, Yamnayan 👁 Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/038cy 👁 edit this on wikidata
Thesawrws y BNCF2579, 6206 👁 edit this on wikidata
👁 Tudalen Comin
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
👁 Image
Yr ymerodr Marcus Aurelius a'i deulu'n offrymu mewn diolch am fuddugoliaeth yn erbyn llwythau Germanaidd
Pwnc yr erthygl hon yw'r bobloedd hanesyddol. Am y bobloedd fodern sydd yn siarad ieithoedd Germanaidd, gweler pobloedd Germanaidd.

Y Germaniaid (Lladin: Germani) oedd y bobloedd hanesyddol oedd yn byw yng Ngermania. Roeddynt yn ffurfio mwyafrif y boblogaeth yn yr ardal honno ond rhannant ran o'r diriogaeth â llwythau Celtaidd, ynghyd â Sgythiaid a Slafiaid yn y dwyrain. Yn ôl yr hanesydd Tacitus yn ei lyfr Germania, defnyddiai'r Rhufeiniaid yr enw i gyfeirio at y llwyth cyntaf i groesi Afon Rhein ond daeth i gael ei ddefnyddio i ddisgrifio'r holl lwythau cytras oedd yn byw yr ochr arall i'r afon yn ogystal.

Roedd cymdeithas y Germaniaid yn seiliedig ar batrymau llwythol dan benaethiaid a brenhinoedd traddodiadol. Ar sawl ystyr roedd eu diwylliant a'u ffordd o fyw yn agos i eiddo'r Celtiaid, eu cymdogion, ac yn rhan o etifeddiaeth ieithyddol, crefyddol a diwylliannol a oedd yn cynnwys pobloedd Indo-Ewropeaidd eraill fel yr Italiaid, y Groegiaid a'r pobloedd Indo-Iranaidd yn gyffredinol.