VOOZH about

URL: https://cy.wikipedia.org/wiki/Gwenallt

โ‡ฑ David James Jones (Gwenallt) - Wicipedia


Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd o Gwenallt)
David James Jones
FfugenwGwenallt ๐Ÿ‘ Edit this on Wikidata
Ganwyd18 Mai 1899 ๐Ÿ‘ Edit this on Wikidata

Pontardawe ๐Ÿ‘ Edit this on Wikidata
Bu farw24 Rhagfyr 1968 ๐Ÿ‘ Edit this on Wikidata

Aberystwyth ๐Ÿ‘ Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth๐Ÿ‘ Baner Cymru
 Cymru
Alma mater
Galwedigaethbardd, nofelydd ๐Ÿ‘ Edit this on Wikidata
Cyflogwr
PriodNรชl Edwards ๐Ÿ‘ Edit this on Wikidata
๐Ÿ‘ Image
Clawr y gyfrol Gwreiddiau

Roedd Gwenallt (18 Mai 1899 โ€“ 24 Rhagfyr 1968) (David James Jones) yn un o feirdd mwyaf yr 20g. Fe'i ganwyd ym Mhontardawe ond fe symudodd y teulu yn fuan i'r Alltwen, yng Nghwm Tawe.

Ei fywyd a'i waith

[golygu | golygu cod]

Cafodd marwolaeth ei dad a laddwyd gan fetel tawdd yn y gwaith tun effaith ddofn arno. Er ei fagu mewn ardal ddiwydiannol roedd dylanwad ardal wledig Rhydcymerau Sir Gaerfyrddin arno hefyd, am iddo ymweld ac aros gyda pherthnasau yno lawer yn ei fachgendod.

Roedd yn ddarlithydd yn Adran Gymraeg Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth ac fe'i siomwyd pan na chafodd ei apwyntio i fod yn Athro ar yr adran i ddilyn T. H. Parry-Williams. Ef oedd golygydd cyntaf y cylchgrawn llenyddol Taliesin a gyhoeddir gan yr Academi Gymreig.

Am ei fod yn wrthwynebydd cydwybodol fe'i carcharwyd yn Wormwood Scrubs a Dartmoor ac ysgrifennodd ei nofel Plasau'r Brenin o ganlyniad i'r profiad hwnnw.

Daeth yn amlwg fel bardd pan enillodd ei awdl Y Mynach gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1926. Enillodd y Gadair eto yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1931 gyda Breuddwyd y Bardd.

Pan yn ifanc arferai fynd i'r capel yn gyson ond wedyn coleddodd syniadau Marcsaidd. Newidiodd ei farn eto a daeth yn Genedlaetholwr Cymraeg a Bardd Cristnogol oedd Gwenallt.[1] Mae recordiad o Gwenallt yn darllen tri o'i gerddi ar gael ar CD a gwefan gan Sain.

๐Ÿ‘ Image
Bedd Gwenallt ym Mynwent Plascrug, Aberystwyth

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]

Nofelau

[golygu | golygu cod]

Cerddi

[golygu | golygu cod]

Gwaith golygyddol a beirniadaeth lenyddol

[golygu | golygu cod]
  • (gol.), Yr Areithiau Pros (Caerdydd, 1934)
  • (gol.), Blodeugerdd o'r Ddeunawfed Ganrif (Caerdydd, 1936)
  • (gol.), Detholiad o Ryddiaith Gymraeg R. J. Derfel (Caerdydd, 1945)
  • Cofiant Idwal Jones (1958)

Astudiaethau

[golygu | golygu cod]

Paratowyd llyfryddiaeth o weithiau Gwenallt gan Iestyn Hughes (1983).

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. โ†‘ D. Ben Rees, Pymtheg o Wลทr Llรชn yr Ugeinfed Ganrif ( Cyhoeddiadau Modern Cymru, 1972)