VOOZH about

URL: https://cy.wikipedia.org/wiki/Hebrides_Allanol

⇱ Ynysoedd Allanol Heledd - Wicipedia


Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd o Hebrides Allanol)
Ynysoedd Allanol Heledd
👁 Image
👁 Image
Mathynysfor, un o gynghorau'r Alban, lieutenancy area of Scotland, Scottish islands area 👁 Edit this on Wikidata
PrifddinasSteòrnabhagh 👁 Edit this on Wikidata
Poblogaeth26,720 👁 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolYnysoedd Heledd 👁 Edit this on Wikidata
Gwlad👁 Baner Yr Alban
 Yr Alban
Arwynebedd3,058.7026 km² 👁 Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor yr Iwerydd 👁 Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau57.76°N 7.02°W 👁 Edit this on Wikidata
Cod SYGS12000013 👁 Edit this on Wikidata
GB-ELS 👁 Edit this on Wikidata
👁 Map

Ynysoedd oddi ar arfordir gogledd-gorllewinol yr Alban yw Ynysoedd Allanol Heledd neu Yr Ynys Hir, (Gaeleg yr Alban: Na h-Eileanan Siar, Saesneg: Outer Hebrides). Noder fod Na h-Eileanan Siar weithiau yn cael ei ddefnyddio am y cyfan o Ynysoedd Heledd. An Cliseam ar ynys Na Hearadh (Harris) yw copa uchaf yr ynysoedd. Yr enw ar yr etholaeth seneddol (y DU) yw Na h-Eileanan an Iar.

Yr ynysoedd hyn yw cadarnleoedd iaith Gaeleg yr Alban.

👁 Image
Ynysoedd Heledd; Ynysoedd Allanol Heledd mewn oren

Tarddiad yr enw

[golygu | golygu cod]

Ystyr "heledd" yw "pwll o ddŵr hallt" a cheir y gair "hal" neu "hel" (sef halen) ar ddechrau Hel-edd.[1] Mae'n bosib, hefyd, ei fod yn tarddu o'r gair Gaeleg am "ynys", sef Eilean.

Ynysoedd a'u poblogaeth

[golygu | golygu cod]

Yr ynysoedd sydd a phobl yn byw arnynt yw:

Ynys Poblogaeth (2001)
Leòdhas a Na Hearadh (Lewis a Harris) 19,918
De Uist 1,818
Gogledd Uist 1,271
Benbecula 1,219
Barraigh 1,078
Sgalpaigh na Hearadh 322
Bernera Fawr 233
Griomasaigh 201
Beàrnaraigh 136
Eirisgeidh 133
Bhatarsaigh 94
Baile Sear 49
Grimsay, De-ddwyrain Benbecula 19
Flodaigh 11
CYFANSWM (2001) 26,502

Ymhlith yr ynysoedd sydd bellach heb boblogaeth, mae ynysoedd Sant Kilda, y pellaf tua'r gorllewin, sy'n awr yn Safle Treftadaeth y Byd.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. [Geiriadur Prifysgol Cymru; Cyfrol ll; tudalen 1843.]

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
👁 Image
Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Alban. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato