| Henry Richard | |
|---|---|
| π Image | |
| Ganwyd | 3 Ebrill 1812 π Edit this on Wikidata Tregaron π Edit this on Wikidata |
| Bu farw | 20 Awst 1888 π Edit this on Wikidata Treborth π Edit this on Wikidata |
| Dinasyddiaeth | π Baner Cymru Cymru |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | gwleidydd, gweinidog yr Efengyl π Edit this on Wikidata |
| Swydd | Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig π Edit this on Wikidata |
| Plaid Wleidyddol | plaid Ryddfrydol π Edit this on Wikidata |
| Tad | Ebenezer Richard π Edit this on Wikidata |
| Mam | Mary Richard π Edit this on Wikidata |
| Priod | Matilda Augusta Farley π Edit this on Wikidata |
Gweinidog yr Efengyl gyda'r Annibynwyr a gwleidydd o Gymru oedd y Parch. Henry Richard AS (3 Ebrill 1812 β 20 Awst 1888), a adwaenid yng Nghymru fel "Yr Apostl Heddwch." Ceisiodd esbonio'r Cymry i'r Saeson.[1]
Fe'i etholwyd yn AS Merthyr Tudful yn 1868 hyd at 1888.[2]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganed Henry Richard yn Nhregaron, Ceredigion yn 1812, yn fab i'r Parch. Ebenezer Richard (1781-1837), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Cafodd goleg yn Highbury, Llundain, lle graddiodd mewn diwynyddiaeth.
Yn 1835 etholwyd ef yn weinidog ar gapel yr Annibynwyr yng Nghapel Marlborough yn Old Kent Road, Llundain; ef oedd yr ail weinidog ers agor y capel yn 1826, ac aeth ati ar unwaith i ddileu dyledion adeiladu'r capel. Gwnaeth hynny'n llwyddiannus a chododd ddigon o arian i agor ysgol hefyd: y British School, Oakley Place.
Roedd yn ffigwr blaenllaw yn rhengoedd y Rhyddfrydwyr Cymreig ac yn gyfaill i'r diwygiwr radicalaidd Seisnig Richard Cobden. Yn 1868 etholwyd ef yn Aelod Seneddol Merthyr Tudful o 1868 hyd 1888. Cofir Henry Richard yn bennaf fel hyrwyddwr achos heddwch a chyd-ddealltwriaeth ryngwladol ac fel ysgrifennydd y Gymdeithas Heddwch am ddeugain mlynedd (1848-84). Cyfranodd yn fawr at y mudiad yn erbyn caethwasaeth ac achosion eraill hefyd.
Cyhoeddodd nifer o bamffledi a thraethodau, yn Gymraeg a Saesneg, ar bynciau mawr ei gyfnod, yn cynnwys Addysg yng Nghymru, safle'r iaith Gymraeg, Diwygio'r Tir, a Datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru.
Bu farw ar ei ymweliad ag Arglwydd Raglaw MΓ΄n yn Nhreborth, Bangor ar 21 Awst 1888 a cheir dwy gofeb iddo: y naill yn ei dref enedigol, Tregaron, a'r llall yw ei fedd ym Mynwent Abney Park, Llundain, lle ceir darlun ohono mewn carreg.
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Y cerflun o Henry Richard yn Nhregaron.
-
Henry Richard yn y 1860au.
-
Henry Richard, tua 1885
-
Dadorchuddio cofeb Henry Richard yn 1885. Ffotograff gan John Thomas.
-
Ei fedd ym Mynwent Abney Park, Llundain
-
Henry Richard gan Gwyn Griffiths
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Cyhoeddiadau (detholiad)
[golygu | golygu cod]- Bywyd y Parch. Ebenezer Richard (1839) bywgraffiad o'i dad. Awdur ar y cyd a'i frawd y Parch Edward W Richard
- Defensive War (1846, 1890),
- The Recent Progress of International Arbitration (1884)
- Memoirs of Joseph Sturge (1864)
- Letters on the Social and Political Condition of Wales (1866, 1884)
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Gwyn Griffiths, Henry Richard
- Charles S. Miall, Henry Richard M.P. (1889)
- Eleazar Roberts, Bywyd a Gwaith y diweddar Henry Richards (1902)[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- β "RICHARD, HENRY (1812 - 1888), gwleidyddwr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2024-04-23.
- β "Richard, Henry (1812β1888), politician". Oxford Dictionary of National Biography (yn Saesneg). doi:10.1093/ref:odnb/23527. Cyrchwyd 2024-04-23.
- β Roberts, Eleazar (1902). Bywyd a Gwaith Henry Richard AS . Wrecsam: Hughes a'i Fab,.CS1 maint: extra punctuation (link)
| π Image |
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
| Senedd y Deyrnas Unedig | ||
|---|---|---|
| Rhagflaenydd: Henry Austin Bruce |
Aelod Seneddol dros Bwrdeistref Merthyr Tudful 1868 β 1888 |
Olynydd: William Pritchard Morgan |
- CS1 Saesneg-language sources (en)
- CS1 maint: extra punctuation
- Articles with hCards
- Erthyglau sy'n defnyddio Nodyn Gwybodlen person Wicidata
- Dalennau gyda gwybodaeth am Reolaeth Awdurdod
- Wikipedia articles with VIAF identifiers
- Wikipedia articles with LCCN identifiers
- Wikipedia articles with ISNI identifiers
- Wikipedia articles with GND identifiers
- Wikipedia articles with faulty authority control identifiers (SBN)
- Wikipedia articles with ODNB identifiers
