VOOZH about

URL: https://cy.wikipedia.org/wiki/Hugh_Griffith

⇱ Hugh Griffith - Wicipedia


Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
Hugh Griffith
👁 Image
Ganwyd30 Mai 1912 👁 Edit this on Wikidata

Marian-glas 👁 Edit this on Wikidata
Bu farw14 Mai 1980 👁 Edit this on Wikidata

Llundain 👁 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth👁 Baner Cymru
 Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, actor llwyfan, actor ffilm, actor teledu 👁 Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr yr Academi i'r Actor-gynorthwyydd Gorau 👁 Edit this on Wikidata

Actor o Gymro oedd Hugh Emrys Griffith (30 Mai 191214 Mai 1980). Cafodd ei eni ym Marianglas, Sir Fôn, yn rhugl ei Gymraeg ac yn fab i Mary a William Griffith, ac yn chwaer i Elen Roger Jones. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Sirol Llangefni, ond fe fethodd yr arholiadau i fynd i'r brifysgol. Cafodd ei annog i ddilyn gyrfa mewn bancio ond fe symudodd i Lundain i fod yn nes at gyfleon actio. Tra roedd ar gychwyn yn Academi Celfyddydau Drama Brenhinol (RADA) fe gychwynodd yr Ail Ryfel Byd, a gwasanaethodd ym Myddin Lloegr am chwe mlynedd gyda'r Ffiwsilwyr Cymreig yn India, ac yn ymgyrch Burma. Ailgydiodd yn ei yrfa actio yn 1946.

Derbyniwyd ef i'r orsedd gan yr Archdderwydd William Morris yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llangefni 1957. Derbyniodd radd anrhydeddus gan Brifysgol Cymru, Bangor yn 1980, a'r un flwyddyn, bu farw o drawiad ar y galon yn Llundain.

Ffilmiau

[golygu | golygu cod]

Teledu

[golygu | golygu cod]
👁 Baner Cymru
👁 Eicon person
Eginyn erthygl sydd uchod am un o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.