VOOZH about

URL: https://cy.wikipedia.org/wiki/Hwlffordd

⇱ Hwlffordd - Wicipedia


Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
Hwlffordd
👁 Image
Y Stryd Fawr yn Hwlffordd
Mathtref farchnad, cymuned, tref sirol 👁 Edit this on Wikidata
Poblogaeth12,107, 10,808, 12,042 👁 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro 👁 Edit this on Wikidata
Gwlad👁 Baner Cymru
 Cymru
GerllawAfon Cleddy Wen 👁 Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaAberdaugleddau, Penfro 👁 Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.8011°N 4.9694°W 👁 Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000941 👁 Edit this on Wikidata
Cod OSSM955155 👁 Edit this on Wikidata
Cod postSA61, SA62 👁 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruPaul Davies (Ceidwadwyr)
AS/au y DUHenry Tufnell (Llafur)
👁 Map
Statws treftadaethHenebion Cenedlaethol Cymru 👁 Edit this on Wikidata
Manylion

Tref farchnad a chymuned yn Sir Benfro, Cymru, yw Hwlffordd[1][2] (Saesneg: Haverfordwest). Lleolir pencadlys Sir Benfro yn y dref. Mae gan ardal adeiledig Hwlffordd y boblogaeth fwyaf yn y sir, gyda phoblogaeth o 15,388 (amcan) yn 2020.[3] Mae maestrefi'r dref yn cynnwys Prendergast, Albert Town ac ardaloedd preswyl a diwydiannol Withybush.

Daw'r enw "Hwlffordd", mae'n debyg, o'r enw Saesneg Haverfordwest.[4] Ystyr Haverford, neu Harford ar lafar gwlad, yw 'rhyd y bychod gafr'. Ychwanegwyd yr elfen -west tua'r 15g er mwyn osgoi dryswch gyda Henffordd.[4]

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Paul Davies (Ceidwadwyr)[5] ac yn Senedd y DU gan Henry Tufnell (Llafur).[6]

Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[7][8][9][10]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Hwlffordd (pob oed) (12,042) 100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Hwlffordd) (1,682) 14.6%
:Y ganran drwy Gymru 19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Hwlffordd) (8292) 68.9%
:Y ganran drwy Gymru 73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Hwlffordd) (1,974) 36.6%
:Y ganran drwy Gymru 67.1%

Ymwelodd Gerallt Gymro â Hwlffordd yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188. Cafodd Waldo Williams, yr actor Christian Bale a'r cerddor Gruff Rhys eu geni yn y dref.

Adeiladau a chofadeiladau

[golygu | golygu cod]

Eisteddfod Genedlaethol

[golygu | golygu cod]

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Hwlffordd ym 1972. Am wybodaeth bellach gweler:

Chwaraeon

[golygu | golygu cod]

Mae clwb pêl-droed y dref yn chwarae yn Uwchgynghrair Cymru, sef Sir Hwlffordd

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 10 Tachwedd 2021
  3. City Population; adalwyd 10 Tachwedd 2021
  4. 4.0 4.1 "Yr iaith Saesneg ac enwau lleoedd Cymru". 2014. Cyrchwyd 2020-10-06.
  5. Gwefan Senedd Cymru
  6. Gwefan Senedd y DU
  7. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  9. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  10. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]
gw  sg  go
Trefi a phentrefi Sir Benfro

Dinas
Tyddewi
Trefi
Aberdaugleddau  · Arberth  · Abergwaun  · Cilgerran  · Dinbych-y-pysgod  · Doc Penfro  ·  · Neyland  · Penfro · Wdig
Pentrefi
Aber-bach  · Abercastell  · Abercuch  · Abereiddi  · Aberllydan  · Amroth  · Angle  · Begeli  · Y Beifil  · Blaen-y-ffos  · Boncath  · Bosherston  · Breudeth  · Bridell  · Brynberian  · Burton  · Caeriw  · Camros  · Cas-blaidd  · Cas-fuwch  · Cas-lai  · Cas-mael  · Cas-wis  · Casmorys  · Casnewydd-bach  · Castell Gwalchmai  · Castell-llan  · Castellmartin  · Cilgeti  · Cil-maen  · Clunderwen  · Clydau  · Cold Inn  · Cosheston  · Creseli  · Croes-goch  · Cronwern  · Crymych  · Crynwedd  · Cwm-yr-Eglwys  · Dale  · Dinas  · East Williamston  · Eglwyswen  · Eglwyswrw  · Felindre Farchog  · Felinganol  · Freshwater East  · Freystrop  · Y Garn  · Gumfreston  · Hasguard  · Herbrandston  · Hermon  · Hook  · Hundleton  · Jeffreyston  · Johnston  · Llanbedr Felffre  · Llandudoch  · Llandyfái  · Llandysilio  · Llanddewi Efelffre  · Llanfyrnach  · Llangolman  · Llangwm  · Llanhuadain  · Llanisan-yn-Rhos  · Llanrhian  · Llanstadwel  · Llan-teg  · Llanwnda  · Llanychaer  · Maenclochog  · Maenorbŷr  · Maenordeifi  · Maiden Wells  · Manorowen  · Marloes  · Martletwy  · Mathri  · Y Mot  · Mynachlog-ddu  · Nanhyfer  · Niwgwl  · Nolton  · Parrog  · Penalun  · Pentre Galar  · Pontfadlen  · Pontfaen  · Porth-gain  · Redberth  · Reynalton  · Rhos-y-bwlch  · Rudbaxton  · Rhoscrowdder  · Rhosfarced  · Sain Fflwrens  · Sain Ffrêd  · Saundersfoot  · Scleddau  · Slebets  · Solfach  · Spittal  · Y Stagbwll  · Star  · Stepaside  · Tafarn-sbeit  · Tegryn  · Thornton  · Tiers Cross  · Treamlod  · Trecŵn  · Tredeml  · Trefaser  · Trefdraeth  · Trefelen  · Trefgarn  · Trefin  · Trefwrdan  · Treglarbes  · Tre-groes  · Treletert  · Tremarchog  · Uzmaston  · Waterston  · Yerbeston