VOOZH about

URL: https://cy.wikipedia.org/wiki/Iago

⇱ Iago fab Sebedeus - Wicipedia


Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd o Iago)
Iago fab Sebedeus
👁 Image
Ganwyd1 g 👁 Edit this on Wikidata

Bethsaida 👁 Edit this on Wikidata
Bu farw44 👁 Edit this on Wikidata

Jerwsalem 👁 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol 👁 Edit this on Wikidata
Galwedigaethpysgotwr, cenhadwr 👁 Edit this on Wikidata
Swyddapostol 👁 Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl25 Gorffennaf, 30 Ebrill, 30 Rhagfyr 👁 Edit this on Wikidata
TadSebedeus 👁 Edit this on Wikidata
MamSalome 👁 Edit this on Wikidata
PriodUnknown 👁 Edit this on Wikidata
Am bobl a chymeriadau eraill sy'n dwyn yr enw Iago, gweler Iago (gwahaniaethu)

Un o'r deuddeg Apostol oedd Iago fab Sebedeus neu Sant Iago (bu farw 44). Roedd yn fab i Sebedeus a Salome, ac yn frawd i Ioan. Dywedir ei fod ef a'r frawd yn bysgotwyr ar lan Môr Galilea pan alwyd hwy gan Iesu fel disgyblion.

👁 Image
Darlun o Sant Iago gan Rembrandt.

Yn diweddarach, cofnodir yn Actau'r Apostolion i Herod Agrippa ddienyddio Iago a chleddyf. Yn ôl y traddodiad, aethpwyd a'i weddillion i'w claddu i Santiago de Compostela yn Galicia yng ngogledd-orllewin Sbaen. Daeth Iago yn nawdd-sant Sbaen, ac ystyrir Santiago de Compostela gan Gatholigion fel trydedd dinas sanctaidd, ar ôl Jeriwsalem a Rhufain. Mae'r ddinas wedi bod yn gyrchfan boblogaidd i bererinion o'r Canol Oesoedd ymlaen.

👁 Image
Eglwys Gadeiriol Sant Iago, Santiago de Compostela