VOOZH about

URL: https://cy.wikipedia.org/wiki/Jamie_Wallis

⇱ Katie Wallis - Wicipedia


Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd o Jamie Wallis)
Katie Wallis
👁 Image
Ganwyd2 Mehefin 1984 👁 Edit this on Wikidata

Betws 👁 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth👁 Baner Cymru
 Cymru
Alma mater
Ymgynghorydd y doethor
Galwedigaethgwleidydd 👁 Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 58ain Senedd y Deyrnas Unedig 👁 Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol 👁 Edit this on Wikidata

Gwleidydd o Gymru yw Katie Wallis (ganwyd Jamie Hamilton Wallis; 2 Mehefin 1984)[1]. Bu'n Aelod Seneddol Ceidwadol dros etholaeth Pen-y-bont ar Ogwr rhwng 2019 a 2024. Trechodd Madeleine Moon o Lafur yn etholiad cyffredinol 2019.[2] a penderfynodd beidio cystadlu'r sedd yn etholiad cyffredinol 2024.[3]

Bywyd cynnar ac addysg

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Wallis yn Bettws. Cafodd ei addysg yn yr Ysgol Gatholig St Robert yn Aberkenfig, Ysgol St Clare ym Mhorthcawl, Ysgol Brynteg ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac Eglwys Crist, Rhydychen.[4] Cafodd doethuriaeth mewn Astrobioleg gan Brifysgol Caerdydd.[5]

Gyrfa wleidyddol

[golygu | golygu cod]

Yn Ionawr 2020, cyhoeddodd Buzzfeed stori yn datgelu fod Wallis yn gyd-berchennog gwefan 'dadi siwgr', "a oedd yn cynnig perthynas ariannol i fyfyrwyr gyda 'noddwyr' cyfoethog". Canfu Buzzfeed ei fod wedi bod yn gyfarwyddwr ac yn gyfranddaliwr rhiant-gwmni'r wefan.[6] Galwodd yr Aelod Seneddol Llafur Jess Phillips am gael gwared â Wallis.[7]

Cefnogodd Wallis Liz Truss fel arweinydd y blaid, ond ym mis Hydref 2022 dywedodd y dylai ymddiswyddo. Honnodd fod ASau Ceidwadol eraill wedi defnyddio materion trawsryweddol fel arf yn ei erbyn.[8]

Dywedodd Suella Braverman nad oedd hi'n ystyried galw person traws wrth ei hen enw yn fwriadol yn drosedd casineb.[9]

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Ar 30 Mawrth 2022, daeth Wallis allan fel person trawsryweddol, gan ddod yr Aelod Seneddol cyntaf i ddod allan fel person trawsryweddol yn San Steffan.[10][11] Yn ei ddatganiad cyhoeddus, dywedodd Wallis ei fod am barhau defnyddio'r rhagenw personol "ef", "ar hyn o bryd".[12] Roedd ei ddatganiad cyhoeddus hefyd yn dweud fod Wallis wedi cael ei flacmêlio yn Ebrill 2020 am ei hunaniaeth rhywiol a cafodd ei dreisio ym Medi 2021.[10]

Achosion llys

[golygu | golygu cod]

Ar 28 Tachwedd 2021, gaeth Wallis ei harestio ar amheuaeth o yrru tra'n anaddas ar ôl damwain car yn Llanfleiddan, Bro Morgannwg, lle mae'n byw.[13] Ar 28 Ebrill 2022, gaeth Wallis ei gyhuddo o fethu â stopio ar ôl damwain car yn Llanfleiddan.[14] Ar 11 Gorffennaf 2022 mewn achos llys yn Llys Ynadon Caerdydd, cafwyd Wallis yn euog o fethu â stopio ac adrodd am ddamwain, gan adael ei gar mewn safle peryglus, ond ei glirio o yrru heb ofal a sylw dyladwy. Cafodd ddirwy o £2,500 a'i wahardd rhag gyrru am chwe mis. Dywedodd y barnwr nad oedd ei esboniad yn gredadwy.[15]

Ar 19 Mai 2025, plediodd Wallis, sydd bellach yn defnyddio'r enw Katie, yn ddieuog o aflonyddu ei gyn-wraig.[16] Ar 17 Mehefin 2025 fe newidiodd ei phle i fod yn euog o aflonyddu drwy anfon negeseuon a gwneud galwadau ffôn.[17] Ar 14 Gorffennaf 2025 fe'i dedfrydwyd gyda gorchymyn cymunedol 12 mis i Wallis i'w gwblhau dros 12 diwrnod, yn ogystal â dirwy gwerth £1,264.[18]

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Madeleine Moon
Aelod Seneddol dros Pen-y-bont ar Ogwr
2019 – presennol
Olynydd:
Chris Elmore

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Jamie Wallis". Who Can I Vote For? (yn Saesneg). Cyrchwyd 19 Ionawr 2019.
  2. "Election 2019 - Bridgend". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 13 Rhagfyr 2019.
  3. "Bridgend Conservative MP Jamie Wallis wants new seat at next election". BBC News (yn Saesneg). 2023-10-22. Cyrchwyd 2025-07-14.
  4. Christ Church, Oxford (2007). Christ Church 2006 (yn Saesneg). Oxford: Christ Church, Oxford. t. 133.
  5. "The New Boys and Girls No. 5: Jamie Wallis" (yn en). Private Eye (1516): 12. 21 Chwefror 2020.
  6. Wickham, Alex. "A New Tory MP Claimed He Wasn't Involved With A "Sugar Daddy" Service His Website Promoted. He Actually Co-Owned It". BuzzFeed. Cyrchwyd 13 Ionawr 2020.
  7. "Jess Phillips urges Tories to suspend new MP linked to 'sugar daddy' website". inews (yn Saesneg). Cyrchwyd 13 Ionawr 2020.
  8. "Aelod Seneddol Ceidwadol Pen-y-bont ar Ogwr yn galw am ymddiswyddiad Liz Truss". Golwg360. 16 Hydref 2022. Cyrchwyd 18 Hydref 2022.
  9. Nadeem Badshah (16 Hydref 2022). "Jamie Wallis accuses fellow Tory MPs of exploiting trans issues during contest for PM". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 18 Hydref 2022.
  10. 10.0 10.1 "AS 'eisiau bod yn drawsryweddol ac wedi cael fy nhreisio'". BBC Cymru Fyw. 30 Mawrth 2022. Cyrchwyd 30 Mawrth 2022.
  11. "Statement from Jamie Wallis MP – 30th March 2022" (yn Saesneg). Jamie Wallis MP. 30 Mawrth 2022. Cyrchwyd 30 Mawrth 2022.
  12. "Follow-up statement from Jamie Wallis MP" (yn Saesneg). Jamie Wallis MP. 30 Mawrth 2022. Cyrchwyd 30 Mawrth 2022.
  13. "Bridgend MP arrested on suspicion of driving while unfit". BBC News (yn Saesneg). 19 Rhagfyr 2021. Cyrchwyd 19 Rhagfyr 2021.
  14. "Cyhuddo AS Pen-y-bont o fethu â stopio ar ôl damwain car". BBC News. 28 Ebrill 2022. Cyrchwyd 28 Ebrill 2022.
  15. "Jamie Wallis: MP found guilty of driving offences" (yn Saesneg). BBC Wales. 11 Gorffennaf 2022. Cyrchwyd 11 Gorffennaf 2022.
  16. "Cyn-Aelod Seneddol yn pledio'n ddieuog i aflonyddu eu cyn-wraig". Golwg 360. 20 Mai 2025. Cyrchwyd 24 Mai 2025.
  17. "Cyn-aelod Seneddol yn pledio yn euog i aflonyddu ei chyn-wraig". Golwg360. 2025-06-17. Cyrchwyd 2025-07-14.
  18. "Dedfrydu Cyn AS y Ceidwadwyr Cymreig ar ôl pledio'n euog i aflonyddu cyn-wraig". newyddion.s4c.cymru. 2025-07-14. Cyrchwyd 2025-07-14.