| Joseph Loth | |
|---|---|
| 👁 Image | |
| Ganwyd | 27 Rhagfyr 1847 👁 Edit this on Wikidata Ar Gemene 👁 Edit this on Wikidata |
| Bu farw | 1 Ebrill 1934 👁 Edit this on Wikidata Paris 👁 Edit this on Wikidata |
| Dinasyddiaeth | Ffrainc 👁 Edit this on Wikidata |
| Addysg | doethuriaeth 👁 Edit this on Wikidata |
| Galwedigaeth | geiriadurwr, ieithydd, athro cadeiriol, hanesydd, academydd 👁 Edit this on Wikidata |
| Swydd | cadeirydd 👁 Edit this on Wikidata |
| Cyflogwr |
|
| Plant | Arthur William Loth 👁 Edit this on Wikidata |
| Gwobr/au | Commandeur de la Légion d'honneur, Gwobr Langlois 👁 Edit this on Wikidata |
Ysgolhaig Celtaidd ac ieithydd o Lydawr oedd Joseph Loth (27 Rhagfyr 1847 – 1 Ebrill 1934). Roedd yn frodor o Guémené-sur-Scorff, Llydaw. Roedd yn ddisgybl i d'Arbois de Jubainville.
Ar ôl cyfnod fel darlithydd ym Mhrifysgol Rennes bu'n athro yn y Collège de France, Paris hyd ei ymddeoliad yn 1930. Cyfranodd nifer o erthyglau a llyfrau ar yr ieithoedd Celtaidd a llenyddiaeth Geltaidd, yn arbennig llenyddiaeth Lydaweg a llenyddiaeth Gymraeg. Bu'n olygydd y cylchgrawn Revue Celtique.
Fe'i cofir yn bennaf yng Nghymru am ei gyfieithiad o'r Mabinogion i'r Ffrangeg (1889), sy'n glasur i'w gymharu â chyfieithiad yr Arglwyddes Charlotte Guest i'r Saesneg, a'i astudiaeth o fydryddiaeth Cymraeg Canol La Métrique Galloise (1900-1902).
Llyfryddiaeth ddethol
[golygu | golygu cod]- Vocabulaire Vieux-breton (1884)
- L'Emigration Bretonne en Armorique (1885)
- Les Mabinogion (1889)
- Les Mots Latins dans les Langues Brittoniques (1892)
- La Métrique Galloise (1900-02)
Categorïau cudd:
- Articles with hCards
- Erthyglau sy'n defnyddio Nodyn Gwybodlen person Wicidata
- Wikipedia articles with VIAF identifiers
- Wikipedia articles with LCCN identifiers
- Wikipedia articles with ISNI identifiers
- Wikipedia articles with GND identifiers
- Wikipedia articles with BNF identifiers
- Wikipedia articles with BIBSYS identifiers
- Wikipedia articles with faulty authority control identifiers (Léonore)
