| Karl Jenkins | |
|---|---|
| 👁 Image | |
| Ganwyd | Karl William Jenkins 👁 Edit this on Wikidata 17 Chwefror 1944 👁 Edit this on Wikidata Pen-clawdd 👁 Edit this on Wikidata |
| Label recordio | Virgin Records, Caroline Records, Deutsche Grammophon 👁 Edit this on Wikidata |
| Dinasyddiaeth | 👁 Baner Cymru Cymru |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | cyfansoddwr, chwaraewr sacsoffon, allweddellwr, chwaraewr obo, cerddor jazz 👁 Edit this on Wikidata |
| Cyflogwr | |
| Adnabyddus am | Stabat Mater, Requiem, In These Stones Horizons Sing, The Armed Man – A Mass for Peace 👁 Edit this on Wikidata |
| Arddull | jazz, roc blaengar, cerddoriaeth yr oes newydd, cerddoriaeth glasurol 👁 Edit this on Wikidata |
| Priod | Carol Barratt 👁 Edit this on Wikidata |
| Gwobr/au | CBE, Marchog Faglor, Honorary Fellow of the Learned Society of Wales 👁 Edit this on Wikidata |
| Gwefan | http://www.karljenkins.com, http://www.karljenkins.com/, http://www.karljenkins.com 👁 Edit this on Wikidata |
Cyfansoddwr ac aml-offerynwr o Gymro yw Syr Karl William Pamp Jenkins CBE, FRAM, HonFLSW (ganwyd 17 Chwefror 1944). Mae rhai o'i weithiau mwyaf adnabyddus yn cynnwys y gân "Adiemus" (1995), o albwm cyfres Adiemus; Palladio (1995); The Armed Man (2000); ei Requiem (2005); a'i Stabat Mater (2008).
Bywyd cynnar ac addysg
[golygu | golygu cod]Magwyd Jenkins yn Penclawdd, Penrhyn Gŵyr. Roedd ei dad yn athro yn yr ysgol leol ac yn organydd a meistr y côr ym Mhenclawdd. Ganddo ef y cafodd Jenkins ei hyfforddiant cerddorol cyntaf. Ar ochr ei dad, roedd ei ddadcu yn löwr.
Bu farw ei fam pan oedd yn 4 mlwydd oed. Ar ochr ei fam, roedd ei ddadcu yn forwr o Sweden a deithiodd i Gymru lle priododd ei famgu, casglwr cocos.[1]
Aeth i Ysgol Ramadeg Tregwyr, ac wedyn i Brifysgol Cymru, Caerdydd, lle cyfarfu a'i wraig. Yn 1966 aeth i Lundain i astudio yn yr Academi Gerdd Frenhinol.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Am y rhan fwyaf o'i yrfa gynnar, adnabyddwyd ef fel cerddor jazz a jazz-roc. Bu'n chwarae amryw o offerynnau gan gynnwys sacsoffon soprano a baritôn, allweddellau ac obo. Ymunodd â grŵp o gyfansoddwr jazz Graham Collier, ac yn ddiweddarach cyd-sefydlodd y band Nucleus a enillodd y wobr gyntaf yn y Montreux Jazz Festival yn 1970. Bu'n chwarae yng Nghlwb Ronnie Scott a chwarae gyda'r band Soft Machine yn y 70au.
Cyfansoddodd gerddoriaeth i nifer o hysbysebion gan gynnwys Levi, British Airways, Renault, Volvo a Pepsi.
Erbyn hyn mae'n fwy adnabyddus fel cyfansoddwr clasurol gan dderbyn comisiynau gan y Bale Brenhinol, Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, Bryn Terfel, ac Evelyn Glennie.
Roedd yn westai yng nghoroni Siarl III am fod un o'i gyfansoddiadau yn cael ei chwarae yn ystod y seremoni. Dangoswyd wyneb Jenkins ar y darllediad gyda'i wedd unigryw o wallt hir gwyn, mwstash a sbectol fawr, a chafwyd nifer fawr o sylwadau digrif ar y cyfryngau cymdeithasol amdano. I'r rhai oedd nad yn ei adnabod, tybiwyd efallai mai Meghan Markle ydoedd mewn cuddwisg. Roedd Markle eisoes wedi datgan na fyddai hi a'r Tywysog Harri yn mynd i'r coroni.[2]
Gweithiau cerddorol
[golygu | golygu cod]- Adiemus (1994)
- Palladio (1996)
- Imagined Oceans
- The Armed Man (1999)
- Dewi Sant
- Ave Verum
- Requiem (2005)
- The Peacemakers (2011)
- Cantata Memoria – Er Mwyn y Plant (2016)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Lewis, Roz (2020-05-17). "Composer Sir Karl Jenkins: 'Adiemus, my biggest hit, was written for an airline advert'". The Telegraph (yn Saesneg). ISSN 0307-1235. Cyrchwyd 2024-02-17.
- ↑ "Coronation: I wasn't Meghan in disguise, says Sir Karl". BBC News (yn Saesneg). 2023-05-10. Cyrchwyd 2024-02-17.
- Genedigaethau 1944
- Cyfansoddwyr yr 20fed ganrif o Gymru
- Cyfansoddwyr yr 21ain ganrif o Gymru
- Cyfansoddwyr clasurol o Gymru
- Cyfansoddwyr jazz o Gymru
- Cymrodyr y Gymdeithas Ddysgedig Cymru
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd
- Ffliwtwyr o Gymru
- Obowyr o Gymru
- Pianyddion yr 20fed ganrif o Gymru
- Pianyddion yr 21ain ganrif o Gymru
- Pobl o Ben-clawdd
- Pobl o Gymru o dras Swedaidd
- Sacsoffonyddion o Gymru
- CS1 Saesneg-language sources (en)
- Articles with hCards
- Erthyglau sy'n defnyddio Nodyn Gwybodlen person Wicidata
- Wikipedia articles with VIAF identifiers
- Wikipedia articles with LCCN identifiers
- Wikipedia articles with ISNI identifiers
- Wikipedia articles with GND identifiers
- Wikipedia articles with BNF identifiers
- Wikipedia articles with BIBSYS identifiers
