| 👁 Image | |
| 👁 Image | |
| Math | dinas, tref sirol, dinas fawr 👁 Edit this on Wikidata |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Lindum Colonia 👁 Edit this on Wikidata |
| Ardal weinyddol | Dinas Lincoln |
| Poblogaeth | 97,541 👁 Edit this on Wikidata |
| Gefeilldref/i | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Swydd Lincoln (Sir seremonïol) |
| Gwlad | 👁 Baner Lloegr Lloegr |
| Arwynebedd | 35.69 km² 👁 Edit this on Wikidata |
| Uwch y môr | 31 metr 👁 Edit this on Wikidata |
| Cyfesurynnau | 53.25°N 0.55°W 👁 Edit this on Wikidata |
| Cod post | LN1-LN6 👁 Edit this on Wikidata |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | City of Lincoln Council 👁 Edit this on Wikidata |
| 👁 Map | |
- Mae'r erthygl yma am y ddinas yn Lloegr. Am Arlywydd yr Unol Daleithiau, gweler Abraham Lincoln.
Dinas yn Swydd Lincoln, Dwyrain Canolbarth Lloegr, yw Lincoln.[1] Tref sirol Swydd Lincoln ac un o'r saith ardal an-fetropolitan y sir yw hi. Saif ar Afon Witham.
Yn 2001, roedd poblogaeth yr ardal ddinesig yn 120,779.
Ymddengys fod sefydliad yma yn Oes yr Haearn, a chredir fod enw'r ddinas yn dod o enw Brythoneg fel Lindu, Lindo neu Lindun. Dan yr Ymerodraeth Rufeinig daeth yn colonia gyda'r enw Lindum.
Gorffennwyd adeiladu'r eglwys gadeiriol yn 1092; ail-adeiladwyd hi yn 1185 wedi daeargryn.
Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]- Castell Lincoln
- Eglwys gadeiriol
Enwogion
[golygu | golygu cod]- George Boole (1815-1864), mathemategydd ac athronydd
- Syr Neville Marriner (g. 1924), cerddor
- Sheila Gish (1942-2005), actores
- James Fenton (g. 1949), bardd
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ British Place Names; adalwyd 7 Medi 2020
Dinas
Trefi
Alford ·
Barton-upon-Humber ·
Boston ·
Bottesford ·
Bourne ·
Brigg ·
Broughton ·
Burgh Le Marsh ·
Caistor ·
Cleethorpes ·
Crowland ·
Crowle ·
Epworth ·
Gainsborough ·
Grantham ·
Grimsby ·
Holbeach ·
Horncastle ·
Immingham ·
Kirton in Lindsey ·
Long Sutton ·
Louth ·
Mablethorpe ·
Market Deeping ·
Market Rasen ·
North Hykeham ·
Scunthorpe ·
Skegness ·
Sleaford ·
Spalding ·
Spilsby ·
Stamford ·
Wainfleet All Saints ·
Winterton ·
Wragby
