| Mark Lewis Jones | |
|---|---|
| 👁 Image | |
| Ganwyd | 31 Awst 1964 👁 Edit this on Wikidata Rhosllannerchrugog 👁 Edit this on Wikidata |
| Dinasyddiaeth | 👁 Baner Cymru Cymru |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | actor, actor llwyfan, actor teledu 👁 Edit this on Wikidata |
Actor o Gymru yw Mark Lewis Jones (ganwyd 31 Awst 1964), mae ei rannau yn cynnwys chwarae arolygydd heddlu yng nghyfres ddrama'r BBC 55 Degrees North, pysgotwr morfilod yn y ffilm Master and Commander: The Far Side of the World, y milwr Tecton yn Troy, Rob Morgan yn y gyfres Stella a Chapten Moden Canady yn Star Wars: The Last Jedi.
Bywyd a gyrfa
[golygu | golygu cod]Ganwyd Mark Lewis Jones yn Rhosllannerchrugog, Wrecsam, Dechreuodd actio yn ei arddegau gyda Theatr Ieuenctid Clwyd[1] ac fe'i hyfforddwyd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.[2] Mae wedi actio gyda'r Royal Shakespeare Company,[3] ac yn Theatr y Glôb Shakespeare yn Llundain.
Mae Lewis Jones wedi gwneud ymddangosiadau nodedig yn nifer o gynyrchiadau teledu yn cynnwysThis Life, Holby City, Spooks, Murphy's Law, Waking the Dead a Torchwood. Efallai mai ei ran fwyaf sylweddol ar y BBC oedd Ditectif Arolygydd Russell Bing yn y gyfres ddrama 55 Degrees North lle'r oedd yn chwarae swyddog heddlu gyda barn gref ddi-flewyn-ar-dafod ond doniol ar adegau, mewn cyfres gymhleth wedi ei chrefftio yn gywrain.
Fe chwaraeodd heddwas arall, Ditectif Sarjant Ray Lloyd yn y ddrama heddlu Murder Prevention.[4] Dau o'i rannau enwocaf mewn ffilmiau mawr Hollywood oedd Hogg the Whaler yn Master and Commander: The Far Side of the World, a Tecton, milwr yn Troy.[5]
Yn 2001 fe bortreadodd Uther Pendragon, ail wr Igraine yn y gyfres deledu Americanaidd The Mists of Avalon. Ar S4C, roedd yn chwarae rhan Irfon yn Con Passionate, Josi yn Calon Gaeth gan Sian James,[6] Bryan Jones yn Y Pris a John Bell yn Y Gwyll[7]
Yn 2009 roedd yn westai arbennig ar gystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd, darlledwyd ar BBC Two (Cymru yn unig).
Ar 28 Gorffennaf 2009 roedd yn arweinydd gweithdy yn yr Actors' Cut [8] yng Nghaerdydd.
Ef oedd Llywydd yr Ŵyl yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025.[9]
Llwyfan
[golygu | golygu cod]- Lord Grey and Henry (Earl of Richmond), Richard III, Royal Shakespeare Company, Llundain, 1993
- Leontes, The Winter's Tale, Globe Theatre, Llundain, 1997
- Milantius, The Maid's Tragedy, Globe Theatre, 1997
- Mark Antony, Julius Caesar, Globe Theatre, 1999
- Taurus, Diomedes, and Sextus Pompeius, Antony and Cleopatra, Globe Theatre, 1999
- Ymddangosod fel Billy, Cardiff East, fel Willy Nilly, Under Milk Wood, a fel Bonario, Volpone, i gyd yn y National Theatre, Llundain; fel Costard, Love's Labour's Lost, fel Lorenzo, The Merchant of Venice, a fel Ferdinand, The Tempest, i gyd gyda'r Royal Shakespeare Company, Stratford-upon-Avon, England; fel Tristram, Morte d'Arthur, a fel Florizel and Antigonas, The Winter's Tale, y ddau yn y Lyric Theatre, London; fel yr arloeswr, Ingolstadt, Gate Theatre; a fel Danton a'r tad, Snow Palace, Tricycle Theatre, Kilburn, Swydd Efrog, Lloegr
- Aston, The Caretaker, Theatr y Sherman, Caerdydd, 1990
- JB Feller yn The Man Who Had All the Luck by Arthur Miller yn y The Donmar Warehouse,[10] Chw 28 - Ebr 5, 2008
- Sergeant-Major Reg Drummond yn Privates on Parade gan Peter Nichols yn y Noël Coward Theatre,[11] 1 Rhagfyr 2012 - 2 Mawrth 2013
Radio
[golygu | golygu cod]- Ymddangosodd mewn darllediadau radio o Cadfael and Cocaine.[12]
- Samson yn The Listener gan Julian Simpson.[13]
Ffilmyddiaeth
[golygu | golygu cod]| Blwyddyn | Ffilm | Rhan | Nodiadau |
|---|---|---|---|
| 2019 | The Crown | Edward Millward | Cyfres 3, pennod 6 |
| 2017 | Star Wars: The Last Jedi | Captain Moden Canady | |
| 2016 | Byw Celwydd | Dylan Williams | |
| 2015 | Y Gwyll / Hinterland | John Bell | Cyfres 2, 1 pennod |
| The Witcher 3: Wild Hunt | Letho of Gulet | Gem Fideo | |
| Queen of the Desert | Frank Lascelles | Theatrig - yn ffilmio ar hyn o bryd | |
| Stella | Rob Morgan | Cyfres 4, 1 pennod | |
| Father Brown | Arnold Francis | Pennod 3.11 "The Time Machine" | |
| Yr Ymadawiad[14] | Stanley | Ffilm | |
| 2014 | Child 44 | Tortoise | Cyfres deledu - yn Ôl-gynhyrchu |
| Castlevania: Lords of Shadow | Guido/Cleric/Scientist | Llais | |
| 37 Days | David Lloyd George | ||
| 2013 | Atlantis | Mac | 1 Pennod: "The Earth Bull |
| Puppeteer | General Dog | Llais | |
| A Viking Saga: The Darkest Day | Aethelwulf | ||
| 2012 | Silk | Sgt-Major Pierce | 1 Pennod |
| Casualty | Caleb Flack | 1 Pennod: "Teenage Dreams" | |
| Titanic | David Evans | 3 Pennod: 1, 2 & 3 | |
| Stella | Rob Morgan | Rheolaidd, Pennod 1 | |
| Sinbad | Azdi | Pennod: Eye of the Tiger | |
| 2011 | Star Wars: The Old Republic | Lleisiau ychwanegol |
Gêm Fideo |
| Baker Boys | Pete | Rheolaidd yn y gyfres | |
| Ni no Kuni | Kublai | Fersiwn Saesneg, llais | |
| Game of Thrones | Shagga | 2 Bennod: "Baelor" and "The Pointy End" | |
| The Witcher 2: Assassins of Kings | Letho of Gulet | Gêm fideo | |
| Dragon Age II | Ser Emeric/Veld/Lleisiau ychwanegol |
Gêm fideo | |
| Being Human | Richard | 2 Bennod: "The Pack" a "Adam's Family" | |
| Silent Witness | D.I. Frank Skipper | 2 Bennod: "A Guilty Mind: Part I" a "A Guilty Mind: Part 2" | |
| 2010 | Pen Talar | Max | Pennod: "Episode No. 1.6" |
| The Cursed Mirror[15] | Sir Oswalt | Ffilm fer | |
| Robin Hood | Thomas Longstride | Ffilm | |
| Bouquet of Barbed Wire | Simon Clark | Teledu - ITV | |
| 2009 | A Child's Christmases in Wales | Dad | Ffilm deledu |
| Merlin | King Olaf | Pennod: "Sweet Dreams" | |
| Crash (UK) | Mr. Hill | Pennod: "Episode No. 1.6" | |
| Risen | Master Pallas | Gêm fideo | |
| Framed | Daffyd Hughes | Ffilm deledu | |
| Law and Order UK | Mark Powell | Pennod: "Love and Loss" | |
| Top of the Cops | as himself - DCI Doug James | Teledu | |
| Zig Zag Love | Paul Carmichael | Ffilm deledu | |
| Welsh Greats[16] | Cyflwynydd | Pennod: "Emlyn Williams" | |
| 2008 | The Commander | DCI Doug James | Pennod: "Abduction" |
| The Passion | Apostle Marcus | 3 Pennod: "Episode No. 1.1," "Episode No. 1.2" and "Episode No. 1.3" | |
| The Other Boleyn Girl | Brandon | Ffilm | |
| Caught in the Act | Alan Williams | Ffilm | |
| 2007 | The Commander | DCI Doug James | 3 Pennod: "Fraudster," "Windows of the Soul" a "The Devil You Know" |
| Y Pris | Prif Gwnstabl Bryan Jones | 5 Pennod: "Parti yn y Parc," "Gêm/Dêt," "Parch," "Y Fwled Gynta" and "Y Dechre" | |
| 2006 | Torchwood | John Ellis | Pennod: "Out of Time" |
| Cravings | Eisner | "Cravings" (Teitl DVD UDA) | |
| Calon Gaeth | Josi Evans | "Small Country" (Teitl Gŵyl UDA) | |
| Stick or Twist | Russ | Rheolaidd | |
| Hydra | Jones | Ffilm fer | |
| Little White Lies | Dr. James | Rheolaidd | |
| 2005 | Waking the Dead | Tom McQueen | Pennod: "Cold Fusion" |
| 55 Degrees North | DI Russell Bing | 7 Pennod: "Episode No. 2.2," "Episode No. 2.3," "Episode No. 2.4," "Episode No. 2.5," "Episode No. 2.6," "Episode No. 2.7" and "Episode No. 2.8" | |
| Con Passionate | Irfon | Rheolaidd | |
| 2004 | Murder Prevention | DS Ray Lloyd | 3 Pennod: "Judgement Day," "False Prophet" and "Last Man Out" |
| Lie with Me | Paul Stebbing | Ffilm deledu | |
| Murphy's Law | Simpson | Pennod: "Go Ask Alice" | |
| Troy | Tecton | Ffilm | |
| 2003 | The Measure of My Days | Dihangwr | Ffilm fer |
| Master and Commander: The Far Side of the World | Mr. Hogg, Whaler | Ffilm | |
| Spooks | Mark Whooley | Pennod: "I Spy Apocalypse" | |
| Red Cap (TV series) | Sgt. Gary Jennings | Pennod: "H-Hour" | |
| 2002 | A Mind to Kill | Gethin Purse | Pennod: "The Little House in the Forest" |
| Y Ty | Jim | Rheolaidd | |
| Holby City | Reece King | Pennod: "Secrets and Lies" | |
| Lenny Blue | DC Huw Morgan | Ffilm deledu | |
| 2001 | The Bench | Des Davies | Rheolaidd |
| The Infinite Worlds of H. G. Wells | Arthur Brownlow | ||
| Tales from Pleasure Beach | Dunk | ||
| The Mists of Avalon | King Uther Pendragon | ||
| Score | Tony | Ffilm deledu | |
| 2000 | Where the Heart Is | Brian Price | Pennod: "Getting Better" |
| Jason and the Argonauts | Mopsus | Ffilm deledu | |
| 1998-1999 | Solomon & Gaenor | Crad Rees | Ffilm |
| The Knock | David Ancrom | 6 Pennod: "Episode No. 4.1," "Episode No. 4.2," "Episode No. 4.3," "Episode No. 4.4," "Episode No. 4.5" and "Episode No. 4.6" | |
| 1996-1997 | This life | Dale | 6 Pennod: "He's Leaving Home," "Unusual Suspect, "Let's Get It On," "Just Sext," "Brief Encounter" and "Family Outing" |
| Soldier Soldier | Capt Jonathan Bell | Pennod: "Delayed Action" | |
| Dangerfield | DI Dicky Sutton | Pennod: "Trial" | |
| 1995 | Casualty | Alison | Pennod: "Trials and Tribulations" |
| Heliwr | Geraint Humphries | Pennod: "Son of His Works" | |
| 1992 | Between the Lines | P.C. Terry Gilzean | Pennod: "A Watch & Chain of Course" |
| 1991 | Heroes II: The Return | Royal Marine Maj. Reggie Ingleton | |
| 1990 | Paper Mask | Dr. Lloyd | Ffilm |
| 1989 | the Shell Seekers | Danus | Ffilm deledu |
| Heartland | Ieuan | Ffilm deledu | |
| The Angry Eart | Guto | Teledu | |
| 1986 | Valhalla | Llais Odin | |
| 1985 | Morons from Outer Space | Godfrey (fel Mark Jones) |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Clwyd Theatr Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-18. Cyrchwyd 2015-12-15.
- ↑ Royal Welsh College of Music & Drama
- ↑ "Royal Shakespeare Company". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-02-23. Cyrchwyd 2015-12-15.
- ↑ "Murder Prevention". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-10-07. Cyrchwyd 2015-12-15.
- ↑ Troy
- ↑ "Green Bay Media Limited". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-03-01. Cyrchwyd 2015-12-15.
- ↑ "S4/C-Y Pris". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-05-13. Cyrchwyd 2015-12-15.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-08-26. Cyrchwyd 2015-12-15.
- ↑ "Mark Lewis Jones fydd Llywydd Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam". BBC Cymru Fyw. 2025-06-10. Cyrchwyd 2025-06-10.
- ↑ Donmar Warehouse
- ↑ Noel Coward Theatre
- ↑ http://www.encyclopedia.com/doc/1G2-3428200106.html
- ↑ http://www.suttonelms.org.uk/julian-simpson.html
- ↑ John DeFore (23 Tachwedd 2015). "'The Passing' ('Yr Ymadawiad'): Film Review". The Hollywood Reporter. Cyrchwyd 8 Awst 2024.
- ↑ The Cursed Mirror (2010)
- ↑ Welsh Greats Emlyn Williams (2009)
