| Michael Bond | |
|---|---|
| 👁 Image | |
| Ganwyd | 13 Ionawr 1926 👁 Edit this on Wikidata Newbury 👁 Edit this on Wikidata |
| Bu farw | 27 Mehefin 2017 👁 Edit this on Wikidata Llundain, Paddington 👁 Edit this on Wikidata |
| Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon 👁 Edit this on Wikidata |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | ysgrifennwr, awdur plant, sgriptiwr, hunangofiannydd, gweithredydd camera, sinematograffydd, sefydlydd 👁 Edit this on Wikidata |
| Cyflogwr |
|
| Adnabyddus am | Paddington Bear 👁 Edit this on Wikidata |
| Perthnasau | Kate Garraway 👁 Edit this on Wikidata |
| Gwobr/au | OBE, CBE 👁 Edit this on Wikidata |
Awdur plant o Loegr oedd Michael Bond CBE, (13 Ionawr 1926 – 27 Mehefin 2017). Ef greodd Paddington Bear, ac ysgrifennodd hefyd am anturiaethau mochyn cwta o'r enw Olga da Polga. Roedd Bond hefyd yn ysgrifennu straeon dirgelwch coginiol ar gyfer oedolion; y prif gymeriad ydy Monsieur Pamplemousse a'i gwaetgi ffyddlon, Pommes Frites.
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Fe'i ganwyd yn Newbury, Berkshire. Addysgwyd Bond yn Presentation College, ysgol Gatholig yn Reading. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gwasanaethodd yn yr RAF a Chatrawd Middlesex o'r Fyddin Brydeinig.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Dechreuodd ysgrifennu yn 1945, a gwerthodd ei stori fer gyntaf i gylchgrawn London Opinion. Yn 1958, ar ôl cynhyrchu nifer o ddramau a straeon byrion tra'n gweithio i'r BBC fel dyn camera teledu (gweithiodd ar raglen Blue Peter am gyfnod), cyhoeddwyd ei lyfr cyntaf A Bear Called Paddington. Erbyn 1967 roedd yn gallu rhoi'r gorau i'w swydd yn y BBC er mwyn dod yn awdur llawn amser. Mae anturiaethau Paddington wedi eu cyhoeddi mewn bron i ugain gwlad, mewn deugain iaith.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Roedd Bond yn briod gyda dau o blant a pedwar ŵyr. Roedd yn byw yn Llundain, ddim yn bell o Orsaf Paddington. Mae'r arth a greodd wedi ysbrydoli bandiau pop, ceffylau rasio, dramau, balwnau awyr a chyfres deledu.
Yn 1997, anrhydeddwyd Bond gyda OBE am ei wasanaethau i lenyddiaeth plant.
Ar 6 Gorffennaf 2007, gafodd Radd Anrhydedd Doctor of Letters gan Brifysgol Reading.
Llyfrau
[golygu | golygu cod]- Articles with hCards
- Erthyglau sy'n defnyddio Nodyn Gwybodlen person Wicidata
- AC with 15 elements
- Wikipedia articles with VIAF identifiers
- Wikipedia articles with LCCN identifiers
- Wikipedia articles with ISNI identifiers
- Wikipedia articles with GND identifiers
- Wikipedia articles with SELIBR identifiers
- Wikipedia articles with BNF identifiers
- Wikipedia articles with BIBSYS identifiers
- Wikipedia articles with NLA identifiers
- Wikipedia articles with faulty authority control identifiers (SBN)
- Wikipedia articles with ODNB identifiers
- Tudalennau sy'n defnyddio dolenni hud ISBN
