VOOZH about

URL: https://cy.wikipedia.org/wiki/Mick_Bates

⇱ Mick Bates - Wicipedia


Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
Mick Bates
πŸ‘ Image
Ganwyd24 Medi 1947 πŸ‘ Edit this on Wikidata

Loughborough πŸ‘ Edit this on Wikidata
Bu farw29 Awst 2022 πŸ‘ Edit this on Wikidata
DinasyddiaethπŸ‘ Baner Cymru
 Cymru πŸ‘ Baner Lloegr
 Lloegr
Galwedigaethgwleidydd πŸ‘ Edit this on Wikidata
SwyddAelod o Gynulliad Cenedlaethol 1af Cymru, Aelod o Ail Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Aelod o 3ydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru πŸ‘ Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Democratiaid Rhyddfrydol πŸ‘ Edit this on Wikidata

Gwleidydd o'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig oedd Mick Bates (24 Medi 1947 – 29 Awst 2022)[1]. Roedd e'n Aelod Cynulliad Cymru (AC) dros Sir Drefaldwyn rhwng 1999 a 2011.

Cafodd Bates ei eni yn Loughborough, Lloegr. Bu'n athro ac yn ffarnwr cyn dod yn wleidydd. Roedd yn byw ar ffarm yn ardal Llanfair Caereinion. Bu hefyd yn gynghorydd sir ar Gyngor Sir Powys.[2]

Yn 2002 cafodd ei feirniadu gan y Ceidwadwyr am wisgo gwisg SiΓ΄n Corn yn y Senedd i godi arian at elusen.[3]

Yn 2010 fe'i cafwyd yn euog o ymosod ar staff y GIG.[4] Ymddiswyddodd o'r blaid ac ymddeolodd y flwyddyn ganlynol.

Teyrngedau

[golygu | golygu cod]

Dywedodd arweinydd y blaid yng Nghymru, Jane Dodds: "Roedd Mick yn un o'r bobl mwyaf croesawgar a charedig roeddwn i'n ei adnabod. "Pan gyrhaeddais Y Trallwng am y tro cyntaf, bron i ddeng mlynedd yn Γ΄l, roedd mor hael ei amser gyda mi. Roedd ei wybodaeth am y materion sy'n effeithio ar ei annwyl Sir Drefaldwyn yn ddiddiwedd. Ni fydd Mick Bates arall, byth.[5]

Dywedodd un o gyn-Aelodau Cynulliad y blaid, William Powell, bod Bates yn "hael, caredig ac angerddol, yn ddyn oedd yn glynu wrth ei egwyddorion ac yn gweithio'n wirioneddol galed" i gynrychioli ei etholaeth.

Mynegodd Llywydd Senedd Cymru, Elin Jones, bod "Mick yn un o gymeriadau mawr dyddiau cynnar y Cynulliad. Mi oedd yn bencampwr clodwiw i holl faterion cynaliadwy a chefn gwlad. Ac yn ladmerydd angerddol dros ei annwyl Faldwyn."[5]

Personol

[golygu | golygu cod]

Roedd yn briod Γ’ Buddug, a ganddynt ddau blentyn mewn oed, Ruth a Daniel, ei bump o wyrion.[5]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ "Former Welsh Assembly Member Mick Bates dies after battle with cancer". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 30 Awst 2022.
  2. ↑ {{cite web |url=https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/62636886 |title=Mick Bates: Teyrngedau i'r cyn-Aelod Cynulliad Rhyddfrydol |publisher=BBC Cymru Fyw |date=30 Awst 2022}
  3. ↑ "Mick Bates: Former Welsh Liberal Democrat AM dies aged 74". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 30 Awst 2022.
  4. ↑ Helen Duffett (11 Rhagfyr 2010). "Mick Bates AM convicted of public order offences". Liberal Democrat Voice (yn Saesneg). Cyrchwyd 30 Awst 2022.
  5. ↑ 5.0 5.1 5.2 "Mick Bates: Teyrngedau i'r cyn-Aelod Cynulliad Rhyddfrydol". BBC Cymru Fyw. 30 Awst 2022.