VOOZH about

URL: https://cy.wikipedia.org/wiki/Niger

⇱ Niger - Wicipedia


Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
Mae yna wybodaeth gwerthfawr yn yr erthygl hon – diolch am eich cyfraniad! Ond i gyrraedd safon arferol, derbyniol Wicipedia, gellir mynd yr ail gam.
Os na chaiff yr erthygl ei gwella'n ddigonol ymhen wythnos neu ddwy wedi 4 Ebrill 2026, fe all gael ei dileu. Os caiff yr erthygl ei gwella'n sylweddol, wedyn mae croeso i chi dynnu'r neges hon oddi ar y dudalen. Ceir rhestr o erthyglau sydd angen eu gwella yma. Sut mae ei gwella? Dyma restr o hanfodion pob erthygl; beth am dreulio ychydig o amser yn mynd drwyddynt? Gweler hefyd ein canllawiau Arddull ac Amlygrwydd.
Niger
👁 Image
👁 Image
ArwyddairBrawdoliaeth, Gwaith, Datblygiad 👁 Edit this on Wikidata
Mathgweriniaeth, gwladwriaeth sofran, gwlad dirgaeedig, gwlad 👁 Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlAfon Niger 👁 Edit this on Wikidata
PrifddinasNiamey 👁 Edit this on Wikidata
Poblogaeth21,477,348 👁 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd18 Rhagfyr 1958 (Datganiad Annibyniaeth, oddi wrth Ffrainc}
3 Awst Diwrnod Annibyniaeth (1960)
AnthemL'Honneur de la Patrie 👁 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethAli Lamine Zeine 👁 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, Africa/Niamey 👁 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Hawsa 👁 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Gwlad 👁 Edit this on Wikidata
Arwynebedd1,267,000 km² 👁 Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaTsiad, Libia, Algeria, Mali, Bwrcina Ffaso, Benin, Nigeria, Y Cynghrair Arabaidd 👁 Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau17°N 10°E 👁 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolCabinet Niger 👁 Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholCynulliad Cenedlaethol 👁 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Niger 👁 Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethAbdourahamane Tchiani 👁 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Niger 👁 Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethAli Lamine Zeine 👁 Edit this on Wikidata
👁 Map
👁 Image
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$14,915 million, $13,970 million 👁 Edit this on Wikidata
Arianfranc CFA Gorllein Affrica 👁 Edit this on Wikidata
Canran y diwaith5 ±1 canran 👁 Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant7.599 👁 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.4 👁 Edit this on Wikidata

Gwlad dirgaeedig yng ngorllewin Affrica yw Niger (ynganiad: niʒɛʁ, enw swyddogol: Jamhuriyar Nijar sef Gweriniaeth Niger). Mae'n ffinio â Nigeria a Benin yn y de, Mali a Bwrcina Ffaso yn y gorllewin, Algeria a Libia yn y gogledd a Tsiad yn y dwyrain. Rhan o'r Sahara yw gogledd y wlad. Mae Afon Niger yn llifo trwy dde-orllewin y wlad. Niamey yw'r brifddinas.

Daearyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Daw enw'r wlad o afon Afon Niger, y drydedd afon hiraf ar gyfandir Affrica. Er hynny, trwy Nigeria a Mali mae rhannau hiraf yr afon yn llifo, gyda rhyw 500 km yn unig yn llifo trwy weriniaeth Niger. Mae 80% o arwynebedd y wlad yn rhan o anialwch y Sahara, llawer ohono yn anialwch Ténéré. Mynydd Idoukal-n-Taghès (2022 m) yw'r uchaf yn y wlad, ym mynyddoedd Aïr. Llosgfynyddoedd ffurfiodd mynyddoedd Aïr, sy'n rhyw fath o is-gangen o Fynyddoedd Ahaggar dros y ffin yn rhan Algeria'r anialwch. Yn y de-orllewin mae dyffryn Afon Niger, lle mae tiroedd mwyaf ffrwythlon y wlad. Mae de-ddwyrain y wlad yn ffinio â Llyn Tsiad.

Hinsawdd drofannol, sych, sydd gan Niger. Anialwch poeth a sych a geir yn y gogledd (ac eithrio gwerddonau â'u coed datys), ond mae tymor glawog i'w gael yn de, gyda hyd at 750mm o law yn flynyddol. Safana yw llawer o'r tir nad yw'n anialwch, gyda choed kaoba, kapok a baobab yn amlwg.

Niamey yw'r brifddinas a'r ddinas fwyaf. Rhai o drefi eraill y wlad yw Zinder, Maradi, Agadez, Tahoua ac Arlit.

Ieithoedd

[golygu | golygu cod]
👁 Image
Ieithoedd cenedlaethol Niger (map yn Almaeneg)

Hawsa yw iaith fwya'r wlad gydag oddeutu 55% o'r boblogaeth (rhyw 14,500,000 o bobl) yn ei siarad. Ers 2025, Hawsa yw iaith swyddogol y wlad - roedd iaith y coloneiddwyr o Ffrainc wedi parhau'n iaith swyddogol tan hynny.

Ceir sawl iaith arall yn y wlad: Songaieg (gan gynnwys Zarma), Tamasheceg, Ffwlareg, Canwrieg, Arabeg, Gwrmaneg, ieithoedd Tebw a mwy.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
👁 Image
Eginyn erthygl sydd uchod am . Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.