VOOZH about

URL: https://cy.wikipedia.org/wiki/Normandi

⇱ Normandi - Wicipedia


Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
Normandi
👁 Image
Mathardal hanesyddol 👁 Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlLlychlynnwyr 👁 Edit this on Wikidata
PrifddinasCaen, Rouen, Saint Helier, St Peter Port 👁 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Gwlad👁 Baner Ffrainc
 Ffrainc
Yn ffinio gydaprovince of Brittany 👁 Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau49°N 0.000000°W 👁 Edit this on Wikidata
👁 Map
Mae'r erthygl hon yn ymwneud â'r ardal ddaearyddol a diwylliannol. Am ranbarth gweinyddol Ffrainc, gweler Normandie (rhanbarth).

Mae Normandi (yn hanesyddol Norddmandi; Ffrangeg: Normandie, Ffrangeg Normanaidd: Normaundie) yn rhanbarth daearyddol a hanesyddol yr arferid ei alw'n Ddugiaeth Normandi. Lleolir Normandi ar hyd arfordir Ffrainc i'r de o Fôr Udd rhwng Llydaw i'r gorllewin a Picardi i'r dwyrain. Rhennir y diriogaeth rhwng sofraniaeth Ffrengig a Phrydeinig. Mae'r ardal sydd o dan sofraniaeth Ffrengig yn gorchuddio 30,627 km², sydd tua 5% o holl dir Ffrainc. Mae Ynysoedd y Sianel (y cyfeirir atynt fel yr Iles Anglo-Normandes yn Ffrangeg, sef yr 'Ynysoedd Eingl-Normanaidd') yn gorchuddio 194 km² ac yn cynnwys dwy feilïaeth, Guernsey a Jersey, ac mae'r ddwy ohonynt o dan reolaeth Coron Prydain, er nad ydynt yn rhan o'r DU.

Mae Haute-Normandie (Normandi Uchaf) yn cynnwys y départements Ffrengig Seine-Maritime ac Eure, tra bod Basse-Normandie (Normandi Isaf) yn cynnwys adrannau Orne, Calvados, a Manche.

Yn ystod Brwydr Normandi yn ystod yr Ail Ryfel Byd, daeth Normandi yn safle lanio ar gyfer ymosod ar Ewrop a'i rhyddhau o Natsïaeth yr Almaen.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]