| Sgoteg | |
|---|---|
| Sgoteg Iseldir Sgoteg Lydan | |
| (Braid) Scots Lallans Doric | |
| Yn brodorol i | Y Deyrnas Unedig, Gweriniaeth Iwerddon |
| Ardal | |
| Ethnigedd | Albanwyr |
Siaradwyr brodorol | 1,508,540 (2022)[1] |
Ffurfiau cynnar | |
| Tafodieithoedd | |
| Lladin | |
| Statws swyddogol | |
Iaith swyddogol yn | Yr Alban[2] |
Iaith leiafrifol gydnabyddedig yn | |
| Codau iaith | |
| ISO 639-2 | sco |
| ISO 639-3 | sco |
| Glottolog | scot1243 |
| ELP | Scots |
| Linguasphere | (amrywiolion: 52-ABA-aaa i -aav) 52-ABA-aa (amrywiolion: 52-ABA-aaa i -aav) |
| 👁 Image Cyfran yr ymatebwyr yng nghyfrifiad 2011 yn yr Alban 3 oed a hŷn a ddywedodd eu bod yn gallu siarad Sgoteg Iseldirol | |
| 👁 Image Cyfran yr ymatebwyr yng nghyfrifiad 2011 yng Ngogledd Iwerddon 3 oed a hŷn a ddywedodd eu bod yn gallu siarad Sgoteg Ulster | |
Iaith Germanaidd a siaredir yn ne'r Alban yw'r Sgoteg neu Lallans. Mae Sgoteg yn perthyn i'r Saesneg, ac fe'i hystyrir yn dafodiaith Saesneg gan rai, er bod Llywodraeth yr Alban a Siarter Ieithoedd Lleiafrifol Ewrop yn ei chyfrif yn iaith leiafrifol draddodiadol. Ers 2025, mae'r Sgoteg yn iaith swyddogol yn yr Alban.[2][4]
Ceir enghraifft gyfoes o'r iaith Sgoteg yn y gân brotest o'r 1960au gan Hamish Henderson, Freedom Come-All-Ye. Wrth ddarllen geiriau'r gân gellir gweld y tebygrwydd a'r gwahaniaeth rhwng Saesneg. Ymysg lladmeiryddion cyfoes yr iaith mae'r bardd ifanc, Len Pennie.
Mewn cyfrifiad yn yr Alban yn 2022, nododd 1.5 miliwn o bobl yn yr Alban (gyda phoblogaeth o 5.4 miliwn o bobl) eu bod yn gallu siarad Sgoteg.[1]
Newid llafariaid
[golygu | golygu cod]Un gwahaniaeth rhwng Saesneg a Sgoteg yw i'r iaith Sgoteg beidio cael ei heffeithio gan y 'Great Vowel Shift' a ddigwyddodd i'r Saesneg rhwng tua 1350 a 1600 yn yr un ffordd. Un enghraifft o'r newid llefariaid yma oedd bod llefariaid oedd yn cael eu sillafur ou (w yn Gymraeg) newid i au (aw yn Gymraeg); gwelir y gwahaniaeth gydag ynganiad gyfoes "brown cow" yn Saesneg tra i'r Sgoteg gadw ac arddel hyd heddiw "broon coo".[5]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Scots". Scottish Government (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-06-29.
- ↑ 2.0 2.1 "Scottish Languages Bill passed" (Press release). 17 June 2025. https://www.gov.scot/news/scottish-languages-bill-passed/. Adalwyd 30 November 2025.
- ↑ Moseley, Christopher; Nicolas, Alexandre (2010). Atlas of the world's languages in danger / editor-in-Chief, Christopher Moseley ; cartographer, Alexandre Nicolas. Memory of peoples series (arg. 3rd ed. entirely revised, enlarged and updated.). Paris: UNESCO, Intangible Cultural Heritage Section. ISBN 978-92-3-104095-5.
- ↑ "Gaelic and Scots now recognised as official languages". BBC News. 30 November 2025. Cyrchwyd 30 November 2025.
- ↑ "The Scots Language (or Dialect?!)". Sianel Langfocus ar Youtubube. 21 Mehefin 2017.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Lallans - 'Cymdeithas yr Iaith' Sgoteg
- 'Speaking Scottish - is Scots a Language or Slang?' Cyflwyniad ar Youtube
