VOOZH about

URL: https://cy.wikipedia.org/wiki/The_Daily_Telegraph

⇱ The Daily Telegraph - Wicipedia


Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
The Daily Telegraph
πŸ‘ Image
πŸ‘ Image
Enghraifft o:papur dyddiol, papur newydd, cyfnodolyn πŸ‘ Edit this on Wikidata
IdiolegCeidwadaeth πŸ‘ Edit this on Wikidata
GolygyddChris Evans πŸ‘ Edit this on Wikidata
IaithSaesneg πŸ‘ Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1855 πŸ‘ Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1855 πŸ‘ Edit this on Wikidata
Lleoliad cyhoeddiLlundain πŸ‘ Edit this on Wikidata
PerchennogTelegraph Media Group πŸ‘ Edit this on Wikidata
SylfaenyddArthur B. Sleigh πŸ‘ Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolThe Signals Network πŸ‘ Edit this on Wikidata
Rhiant sefydliadTelegraph Media Group πŸ‘ Edit this on Wikidata
PencadlysLlundain πŸ‘ Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://telegraph.co.uk πŸ‘ Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/0179qd πŸ‘ edit this on wikidata
πŸ‘ Tudalen Comin
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
πŸ‘ Image
The Daily Telegraph

Mae The Daily Telegraph (a enwyd yn flaenorol yn "The Telegraph") yn bapur newydd argrafflen yn y DU, a gafodd ei sefydlu ym 1855. Ac eithro'r Financial Times a The Herald (Glasgow), dyma'r unig bapur newydd dyddiol cenedlaethol i gael ei argraffu ar argraffbrint traddodiadol ar fformat argrafflen yn y Deyrnas Unedig, am fod y mwyafrif o argrafflenni eraill wedi newid i'r fformat llai ac yn debycach o ran maint i dabloid. Sefydlwyd ei chwaer bapur, The Sunday Telegraph ym 1961.

Ym mis Ionawr 2009, y Telegraph oedd y papur "maint mawr" gyda'r gwerthiant uchaf yng ngwledydd Prydain, gyda darllediad dyddiol cyfartalog o 842,912. Mae hyn yn cymharu gyda 617,483 ar gyfer papur newydd The Times, 358,844 ar gyfer The Guardian a 215,504 gyda The Independent.[1] Yn Γ΄l arolwg MORI a gynhaliwd yn 2005, roedd 64% o ddarllenwyr y Telegraph yn bwriadu cefnogi'r Blaid Geidwadol yn yr etholiadau arfaethedig.[2]

Golygyddion

[golygu | golygu cod]
1855: Thornton Leigh Hunt
1873: Edwin Arnold
1888: John le Sage
1923: Fred Miller
1924: Arthur Watson
1950: Colin Coote
1964: Maurice Green
1974: Bill Deedes
1986: Max Hastings
1995: Charles Moore
2003: Martin Newland
2005: John Bryant
2007: Will Lewis
2009: Tony Gallagher
2013: Jason Seiken
2014: Chris Evans

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ [Audit Bureau of Circulations Ltd Nid yw'r ffigurau hyn yn cymryd papurau a roddir yn rhad am ddim mewn gwestai, gorsafoedd rheilffordd ac awyrennau i mewn i ystyriaeth.
  2. ↑ Voting Intention by Newspaper Readership Quarter 1 2005 Archifwyd 2009-02-21 yn y Peiriant Wayback Arolwg MORI poll o 11,786 o oedolion Prydeinig, Ionawr - Mawrth 2005. Adalwyd ar 12-05-2009