Papur newydd mwyaf a hynaf Washington, D.C., prifddinas yr Unol Daleithiau, yw The Washington Post.
Ar ddechrau'r 1970au, dan olygyddiaeth Ben Bradlee, y gohebyddion Bob Woodward a Carl Bernstein a ddatgelodd rhan yr Arlywydd Richard Nixon yn sgandal Watergate, ac o ganlyniad i'r sgandal hwnnw ymddiswyddodd Nixon yn 1974.
Prynwyd y Post am $250 miliwn gan Jeff Bezos, sylfaenydd Amazon.com, yn 2013. Ers Chwefror 2017, pryd fu'r Arlywydd Donald Trump yn lladd yn gyson ar y cyfryngau β y Post, The New York Times a CNN yn enwedig β argraffir yr arwyddair Democracy Dies in Darkness ar ben y dudalen flaen.
π Image
Eginyn erthygl sydd uchod am Washington, D.C.. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am Washington, D.C.. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
