VOOZH about

URL: https://cy.wikipedia.org/wiki/Twbercwlosis

⇱ Diciâu - Wicipedia


Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd o Twbercwlosis)
Diciâu
👁 Image
Enghraifft o:clefyd hysbysadwy, dosbarth o glefyd, clefyd 👁 Edit this on Wikidata
Mathclefyd heintus bacterol cychwynnol, clefyd mycobacteraidd heintus, clefyd endemig, clefyd heintus, clefyd, clefyd heintus newydd 👁 Edit this on Wikidata
Lladdwyd1,700,000 👁 Edit this on Wikidata
Arbenigedd meddygolAfiechydon heintiol 👁 edit this on wikidata
SymptomauPeswch, colli pwysau, y dwymyn, chwysu dros nos, poen y frest, lludded, oerni 👁 edit this on wikidata
AchosMycobacterium tuberculosis 👁 edit this on wikidata
Dull trosglwyddoTrosglwyddiad drwy'r aer 👁 edit this on wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/07jwr 👁 edit this on wikidata
Thesawrws y BNCF7502 👁 edit this on wikidata
OMIM607948 👁 edit this on wikidata
QuoraTuberculosis 👁 edit this on wikidata
👁 Tudalen Comin
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Rhestr Afiechydon
Pwyswch ar dangos i weld y rhestr.
Rhestr
AIDS

Afiechyd meddwl
Alcoholiaeth
Annwyd
Anorecsia nerfosa
Asma
Syndrom Asperger
Awtistiaeth
Blinder meddwl
Brech goch
Brech ieir
Brech Wen
Briwiau'r geg
BSE
Cansar
Cen gwallt
Clefyd Alzheimer
Clefyd y galon
Clefyd y gwair
Clefyd y siwgr
Clunwst
Clwy'r marchogion
Clwy'r pennau
Clwyf y traed a’r genau
Colera
Creithiau
Croen gyda chraciau
Croen sensitif
Croen sych
Croenlid (Ecsema)
Cur pen
Cur pen eithafol
Cylchrediad y gwaed
Cymalau ystyfnig
Dafad (ar y croen)
Diffyg traul
Dolur annwyd
Dolur gwddw
Dolur rhydd
Yr Eryr
Ffibrosis systig
Ffliw
Ffliw adar
Gorguro’r galon
Gwahanglwyf
Gwlychu gwely
Gwynegon (Cricmala)
Gorguro’r galon
HIV
Iselder ysbryd
Liwcemia
Llau pen
Llais cryglyd
Llid y bledren
Llid y cyfbilen Llosg eira
Llosg haul
Llosgiadau
Malaria
Mislif afreolaidd
Mislif poenus
Mislif ysgafn
Nerfau
Niwmonia
Peswch
Pigyn clust
Plorod
Poliomyelitis
Poeni
Rwbela
Rhwymedd
Twymyn y gwair
Tyndra’r cyhyrau

Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu
👁 Image
Achosion o'r Diciâu yn 2009. Ceir y ganran uchaf yn Affrica i'r de o'r Sahara.

Clefyd a achosir gan deulu o facteria, yn enwedig Mycobacterium tuberculosis yw'r diciâu (TB). Hen enw ar y clefyd oedd y ddarfodedigaeth. Mae'n effeithio ar yr ysgyfaint yn bennaf, ond gall hefyd effeithio ar y system nerfau a rhannau eraill o'r corff. Cyhoeddodd Robert Koch ei ddarganfyddiad mai Mycobacterium tuberculosis oedd yn achosi'r diciâu ar 24 Mawrth 1882.

Pan gaiff unigolyn ei heintio gan amlaf bydd y system imiwnedd yn lladd y bacteria gyda gwrthgyrff ac ni fydd yr unigolyn yn dangos unrhyw symptomau. Os na all hyn ddigwydd, y llinell amddiffyniad nesaf yw i'r system imiwnedd adeiladu rhwystr o gwmpas y bacteria. Bydd y bacteria'n aros yng nghorff yr unigolyn (TB cudd) ond ni fydd yr unigolyn yn dangos unrhyw symptomau. Gall TB cudd ddatblygu'n TB gweithredol yn ddiweddarach ym mywyd unigolyn, yn enwedig os yw system imiwnedd yr unigolyn wedi gwanhau. Mewn ambell i achos ni all y system imiwnedd ladd neu ddatblygu rhwystr rhag yr haint. Yna bydd y bacteria yn ymledu'n araf i'r ysgyfaint a'r system dreulio.

Symptomau

[golygu | golygu cod]

Mae'r haint yn datblygu mor araf fel bod symptomau TB weithiau ddim yn ymddangos am lawer o flynyddoedd ar ôl i'r unigolyn gael ei heintio. Y prif symptomau yw peswch nodweddiadol, yn aml gyda gwaed yn y poer, gwres uchel a cholli pwysau. Gall y clefyd ledaenu trwy'r aer, wrth i rai sy'n dioddef ohono besychu, tisian neu boeri. Yn y gorllewin, mae'r clefyd yn llawer llai cyffredin bellach nag yr oedd yn y gorffennol, ond mae'n dal i fod yn gyffredin mewn llawer rhan o'r trydydd byd.

Imiwneiddio

[golygu | golygu cod]

O blith yr unigolion hynny sy'n derbyn y brechlyn BCG (Basilws Calmette a Guérin), bydd 70-80% o'r unigolion yn cael eu hamddiffyn rhag TB. Yn y gorffennol roedd pob plentyn yn derbyn BCG fel rhan o raglen frechu eu plentyndod, ond caiff y clefyd ei reoli mor dda gan y brechiad nawr fel na roddir y brechiad yn ystod plentyndod oni bai fod risg uwch y bydd y plentyn yn dod i gysylltiad â bacteria'r TB, e.e. mae gan rai ardaloedd o Ganol Llundain gyfraddau uwch o’r TB, felly gallai baban a enir yn yr ardaloedd hyn dderbyn y brechiad BCG. Rhoddir brechiadau hefyd i weithwyr iechyd sydd wedi dod o, neu sy'n bwriadu mynd i wlad ble mae TB yn fwy cyffredin. Gellid hefyd eu rhoi i unigolyn sydd wedi bod mewn cysylltiad agos ag unigolyn sydd wedi'i heintio gan TB.[1]

Pobl enwog fu farw o'r diciâu

[golygu | golygu cod]

Diciâu mewn anifeiliaid

[golygu | golygu cod]

Mae mycobacterium bovis yn achosi diciâu mewn gwartheg. Gall y clefyd gael ei gario gan anifeiliaid eraill. Yng Nghymru, roedd gan y Llywodraeth gynllun i ddifa moch daear o fewn ardal gyfyngedig fel arbrawf i weld a fyddai hyn yn atal lledaeniad y clefyd ymysg gwartheg, ond bu rhaid rhoi'r gorau i'r cynllun yn dilyn dyfarniad llys ym mis Awst 2010.

Tarddiad y gair

[golygu | golygu cod]

Tra mai amrywiaeth ar tuberculosis yw'r gair cyffredin mewn ieithoedd eraill am y clefyd, mae'r Gymraeg yn arddel dau air arall, diciâu a darfodedigaeth.

  • Diciâu - (sillafir hefyd yn "dicau").[2] Yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru, benthyciad o'r gair Saesneg decay yw "diciâu". Ceir y cofnod cynharaf o 1764 o linell mewn baled, "pob un yn gla mewn rhyw dycau".
  • Darfodedigaeth (neu, darfodigaeth) o'r gair "darfod" (i ddod i ben). Yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru, ceir y cofnod cynharaf o 1630, "rhai ynghanol eu digonoldeb, a lifant ymmaith gan ddarfodedigaeth".[3]
  • Ceir geiriau eraill megis "Clefyd Nychlyd" a'r "Nochdod".

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Iechyd a Gofal Cymdeithasol". CBAC. 2011. Cyrchwyd 23 Mawrth 2017.
  2.  dycáe. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 20 Ionawr 2021.
  3.  darfodedigaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 20 Ionawr 2021.