VOOZH about

URL: https://cy.wikipedia.org/wiki/Twitter

⇱ X (Rhwydweithio cymdeithasol) - Wicipedia


Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd o Twitter)
X
👁 Image
👁 Image
Enghraifft o:gwasanaeth rhwydweithio cymdeithasol, meicroflogio, user-generated content platform, cymuned arlein, very large online platform 👁 Edit this on Wikidata
CrëwrJack Dorsey, Biz Stone, Evan Williams 👁 Edit this on Wikidata
CyhoeddwrX Corp. 👁 Edit this on Wikidata
Iaithieithoedd lluosog 👁 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu21 Mawrth 2006 👁 Edit this on Wikidata
PerchennogX Corp. 👁 Edit this on Wikidata
GweithredwrX Corp. 👁 Edit this on Wikidata
SylfaenyddJack Dorsey, Noah Glass, Biz Stone, Evan Williams 👁 Edit this on Wikidata
PencadlysSan Francisco 👁 Edit this on Wikidata
Enw brodorol👁 Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America 👁 Edit this on Wikidata
DosbarthyddMicrosoft Store 👁 Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://x.com 👁 Edit this on Wikidata
Dynodwyr
👁 Tudalen Comin
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Gwefan rwydweithio cymdeithasol a meicro-flogio yw X, a adnabuwyd yn flaenorol fel Twitter[1] (weithiau Trydar mewn Cymraeg answyddogol). Mae'n caniatau defnyddwyr anfon a darllen negeseuon defnyddwyr eraill (a elwir yn tweets yn y Saesneg), a phostio lluniau/fideos. Arddangosir y negeseuon ar dudalen broffil yr awdur a chânt eu dosbarthu i danysgrifwyr yr awdur a elwir yn ddilynwyr.

Ers i'r gwasanaeth gael ei greu yn 2006 gan Jack Dorsey, daeth Twitter yn wasanaeth poblogaidd a dylanwadol, er fod nifer y defnyddwyr yn llai na gwasanaethau cyfatebol fel Facebook a Instagram. Weithiau caiff ei ddisgrifio fel "negeseuon testun y rhyngrwyd".[2]

Ar y cychwyn roedd cyfyngiad o 140 nod neu lai i bob neges, er mwyn cymhathu gyda negeseuon SMS - fe ehangwyd hyn i 280 nod yn 2017. Mae'r gwasanaeth sylfaenol am ddim ac yn cynnwys hysbysebion o fewn y ffrwd negeseuon. Ers 2021 gall defnyddwyr dalu tanysgrifiad i cael nodweddion uwch yn cynnwys postio negeseuon hyd at 4000 nod. Gall yr awdur gyfyngu ar bwy sy'n gweld ei negeseuon, neu gall ganiatáu i bawb eu gweld. Ers diwedd 2009, gall defnyddwyr ddilyn rhestrau o awduron yn hytrach na dilyn awduron unigol.[3] Gall defnyddiwr bostio drwy wefan Twitter, yr ap swyddogol ar ddyfeisiau symudol a Tweetdeck. Diddymwyd y dull negeseuon testun yn 2020.

Prynwyd y cwmni gan Elon Musk yn Hydref 2022 am $44 biliwn.[4] Ers hynny gwnaed nifer o benderfyniadau dadleuol gan Musk yn cynnwys diswyddo canran sylweddol o'r staff er mwyn arbed arian.[5] Yn ogystal, tynnwyd mynediad am ddim i API Twitter, gan orfodi pob ap allanol i gau lawr. Yng Ngorffennaf 2023 cychwynodd y gwaith o ail-frandio y gwasanaeth fel X.[1]

Hashnod

[golygu | golygu cod]

Fe wnaeth Twitter boblogeiddio'r arfer o roi hashnod cyn gair neu dalfyriad er mwyn creu cymuned o ddiddordeb o gylch pwnc neu ddigwyddiad benodol. Mae'r defnydd o'r hashnod hefyd wedi ei ddefnyddio i boblogeiddio ymgyrchoedd gwleidyddol yn ogysal â hybu busnes. Nid oes modd defnyddio marciau atalnodi fel symbolau yr ebychnod fel rhan o'r gair yn yr hashnod.

Cyfrifon Cymraeg

[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd y cyfri trydar (@WiciCymru) ym Medi 2013, gan Robin Owain ac mae'r cyfri'n trydar yn ddyddiol ers hynny. Pwrpas y cyfri yw ymgyrchu dros ryddhau gwybodaeth ar drwydded agored a chefnogi prosiectau Wicimedia, gan gynnwys Wicipedia. Ym Mawrth 2026 roedd ganddo 6,553 o ddilynwyr ac roedd cyfartaledd o 1.4 miliwn o bobl yn gweld y trydariadau'n wythnosol.[6] Hyd at 2025 roedd y cyfrif @Wicipedia, a weithredwyd gan Carl Morris, yn trydar yn otomatig erthyglau newydd.

Roedd 'Yr Awr Gymraeg' (@YrAwrGymraeg) yn y 2020au cynnar yn un o'r cyfrifon Cymreag mwyaf poblogaidd; roedd yn cael ei weithredu gan Huw Marshall.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Ffynonellau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 Binder, Matt (July 24, 2023). "Twitter's rebrand to X has its website looking like a mess". Mashable SEA (yn Saesneg). Cyrchwyd July 27, 2023.
  2. Swine flu's tweet tweet causes online flutter 29 Ebrill 2009. Leslie D'Monte. Business Standard. Adalwyd ar 29 Mai 2009
  3. There's a List for That Archifwyd 2013-04-29 yn y Peiriant Wayback blog.twitter.com. 30 Hydref 2009. Adalwyd ar 1 Chwefror 2010
  4. "Elon Musk takes control of Twitter in $44bn deal". BBC News (yn Saesneg). 2022-10-28. Cyrchwyd 2023-08-02.
  5. https://www.facebook.com/bbcnews (2022-11-04). "Twitter latest news: Twitter sackings begin as Elon Musk seeks to cut costs". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-08-02.
  6. x.com; adalwyd 15 Mawrth 2026.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
👁 Image
Eginyn erthygl sydd uchod am y rhyngrwyd neu'r We Fyd-Eang. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.