| Victoria Wood | |
|---|---|
| 👁 Image | |
| Llais | Victoria wood bbc radio4 desert island discs 23 12 2007.flac 👁 Edit this on Wikidata |
| Ganwyd | 19 Mai 1953 👁 Edit this on Wikidata Prestwich 👁 Edit this on Wikidata |
| Bu farw | 20 Ebrill 2016 👁 Edit this on Wikidata o canser 👁 Edit this on Wikidata Llundain 👁 Edit this on Wikidata |
| Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig 👁 Edit this on Wikidata |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | cyfarwyddwr teledu, sgriptiwr, canwr-gyfansoddwr, cyfansoddwr cerddoriaeth ffilm, cynhyrchydd teledu, canwr, actor ffilm, pianydd, cyfarwyddwr ffilm, digrifwr stand-yp 👁 Edit this on Wikidata |
| Mam | Helen Wood 👁 Edit this on Wikidata |
| Priod | Geoffrey Durham 👁 Edit this on Wikidata |
| Gwobr/au | CBE, Actores Orau y British Academy Television Awards, Gwobrau Comedi Prydain 👁 Edit this on Wikidata |
Actores, dramodydd, cyfansoddwraig, cantores, cherddores a chyfarwyddwraig Seisnig oedd Victoria Wood CBE (19 Mai 1953 – 20 Ebrill 2016).[1] Ysgrifennodd a serennodd Wood mewn sgetshis, dramâu, ffilmiau a chomedïau sefyllfa, ac roedd ei pherfformiadau comedi byw yn cynnwys caneuon roedd wedi ei chyfansoddi a'u chwarae ar y piano. Cyfansoddodd a pherfformiodd Wood arwyddgan ei chyfres gomedi sefyllfa arobryn Dinnerladies ar y BBC. Roedd llawer o'i hiwmor wedi ei seilio ar fywyd bob dydd, ac yn cyfeirio at gyfryngau poblogaidd Prydeinig ac enwau cynnyrch cynhenid Prydeinig. Roedd yn nodedig am arsylwi ar ddiwylliant ac yn dychanu dosbarthiadau cymdeithasol.[2][3]
Dechreuodd ei gyrfa ym 1974 pan enillodd y sioe dalent New Faces.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Priododd y consuriwr Geoffrey Durham yn Mawrth 1980. Fe wahanodd y ddau yn Hydref 2002.[4] Roedd ganddynt ddau o blant, Grace (ganwyd 1988) a Henry (ganwyd 1992). Er fod Wood yn mynnu preifatrwydd ei hun a'i phlant yn chwyrn, hyd yn oed i ddechrau yn gwrthod ryddhau enw ei mab pan ganwyd, ymddangosodd Henry Durham mewn cameo bach yn rhaglen ddogfennol 'sut a wnaed' ar gyfer ei rhaglen Nadolig arbennig yn 2010.
Roedd Wood yn mynychu cyfarfodydd y Crynwyr[5] ac roedd yn lysieuwr, gan ddweud unwaith, "I'm all for killing animals and turning them into handbags. I just don't want to have to eat them."[2]
Bu farw, ar 20 Ebrill 2016, ar ôl brwydr byr gyda chanser.[6] Roedd Wood yn byw yn Highgate, gogledd Llundain.
Teledu
[golygu | golygu cod]- That's Life! (1976)
- Wood and Walters (1981-1982)
- Victoria Wood As Seen On TV (1984-1987)
- An Audience With Victoria Wood (1988)
- Victoria Wood (1989)
- Victoria Wood's All Day Breakfast (1992)
- Dinnerladies (1998-2000)
- Victoria Wood with All The Trimmings (2000)
- Pat and Margaret (1994)
- Housewife, 49 (2006)
- Victoria's Empire (2007)
- Ballet Shoes (2007)
- Victoria Wood's Mid Life Christmas (2009)
- Eric and Ernie (2011)
Sioe gerdd
[golygu | golygu cod]- Acorn Antiques: The Musical! (2005)
- That Day We Sang (2011)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Comedian Victoria Wood dies aged 62 (en) , BBC News, 20 Ebrill 2016.
- ↑ 2.0 2.1 Brandwood, Neil (2002). Victoria Wood – The Biography (arg. 1st). London: Boxtree. ISBN 1-85227-982-6.
- ↑ Duguid, Mark (July 2003). "Wood, Victoria (1953–2016)". British Film Institute. Cyrchwyd 18 October 2007.
- ↑ "Comic Wood splits from husband". BBC News. 25 Hydref 2002. Cyrchwyd 13 Mawrth 2011.
- ↑ Bates, Stephen (22 Mai 2002). "Peace of the action". London: The Guardian. Cyrchwyd 30 Rhagfyr 2011.
- ↑ Saul, Heather. "Victoria Wood dead: Actress and comedian dies from cancer". Independent. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-10-21. Cyrchwyd 20 Ebrill 2016.
