VOOZH about

URL: https://cy.wikipedia.org/wiki/W._S._Jones

โ‡ฑ W. S. Jones (Wil Sam) - Wicipedia


Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd o W. S. Jones)
W. S. Jones
๐Ÿ‘ Image
Clawr un o lyfrau Wil Sam.
FfugenwWil Sam
Ganwyd28 Mai 1920 ๐Ÿ‘ Edit this on Wikidata

Llanystumdwy ๐Ÿ‘ Edit this on Wikidata
Bu farw15 Tachwedd 2007 ๐Ÿ‘ Edit this on Wikidata

Bangor ๐Ÿ‘ Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon ๐Ÿ‘ Edit this on Wikidata
Galwedigaethdramodydd ๐Ÿ‘ Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaTheatr y Gegin

Dramodydd ac awdur o Gymru oedd William Samuel Jones, a ysgrifennodd dan yr enwau W. S. Jones neu Wil Sam (28 Mai 1920 โ€“ 15 Tachwedd 2007). Roedd yn fwyaf adnabyddus fel creawdwr Ifas y Tryc.

Bywyd a gwaith

[golygu | golygu cod]

Ganed ef yn Llanystumdwy, a bu'n byw yn Eifionydd ar hyd ei oes. Buโ€™n gweithio fel peiriannydd cyn agor modurdy ei hun yn Llanystumdwy. Gwerthodd y modurdy yn 1960 er mwyn canolbwyntio ar ysgrifennu. Dechreuodd ysgrifennu yn ddyn ifanc, ac yn ddiweddarach ysgrifennodd ddramรขu iโ€™w perfformio yn Theatr Fach y Gegin, Cricieth. Pan ddaeth Theatr y Gegin i ben ym 1976, dechreuodd ysgrifennu ar gyfer radio a theledu, a chyn hir daeth yn awdur llawn amser. Daeth i amlygrwydd cenedlaethol fel creawdwr Ifans y Tryc, a chwaraeid gan yr actor Stewart Jones.[1]

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Yn 1953 priododd Dora Ann Jones (16 Mawrth 1928 - 29 Mawrth 2023)[2] a mynd i fyw i'r Crown (hen dafarn gynt). Cawsant ddwy ferch, Mair ac Elin.[3] Mae'n frawd i'r arlunydd a llenor Elis Gwyn Jones.

Bu farw Wil Sam yn 87 oed ym Mangor ar y 15 Tachwedd 2007. Cafwyd Gwasanaeth Coffa yng nghapel Moreia, Llanystumdwy ac fe'i gladdwyd ym Mynwent Newydd Llanystumdwy ar 21 Tachwedd 2007.[4]

Theatr

[golygu | golygu cod]

Mae ei ddramรขu ar gyfer y theatr yn cynnwys

Teledu a Radio

[golygu | golygu cod]

Cafodd ei waith ei ddarlledu ar deledu cynnar y BBC ac ar y radio. Mae'r dramรขu, ffilmiau a chyfresi yn cynnwys:

Nofelau

[golygu | golygu cod]

Dyn y Mynci (1979)

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]

Astudiaeth

[golygu | golygu cod]
  • W. S. Jones, Wil Sam, gol. Gwenno Hywyn, Cyfres y Cewri 5 (Caernarfon: Gwasg Gwynedd, 1985)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. โ†‘ "Wil Sam: Cofio awdur, mecanic a thaid". BBC Cymru Fyw. 2020-05-28. Cyrchwyd 2023-10-29.
  2. โ†‘ "Instagram". www.instagram.com. Cyrchwyd 2023-10-29.
  3. โ†‘ "Click here to view the tribute page for Dora Ann JONES". funeral-notices.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-10-29.
  4. โ†‘ Owen, John (2015-02-05). "JONES, WILLIAM SAMUEL (Wil Sam) (1920-2007), dramodydd". Bywgraffiadur Cymru. Cyrchwyd 2023-10-29.
  5. โ†‘ "CLIP Cymru". clip.library.wales. Cyrchwyd 2024-10-08.