| π Image | |
| Math | ynys π Edit this on Wikidata |
|---|---|
| Poblogaeth | 588 π Edit this on Wikidata |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Ynysoedd Erch π Edit this on Wikidata |
| Sir | Ynysoedd Erch π Edit this on Wikidata |
| Gwlad | π Baner Yr Alban Yr Alban |
| Arwynebedd | 4,713 ha π Edit this on Wikidata |
| Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd π Edit this on Wikidata |
| Cyfesurynnau | 59.3Β°N 3Β°W π Edit this on Wikidata |
| Hyd | 11.5 cilometr π Edit this on Wikidata |
| π Map | |
Un o'r ynysoedd sy'n ffurfio Ynysoedd Erch yng ngogledd-ddwyrain yr Alban yw Westray. Gydag arwynebedd o 18.2 milltir sgwar, hi yw'r chweched ymhlith Ynysoedd Erch o ran maint. Saif i'r gogledd o'r brif ynys, Mainland, ac roedd y boblogaeth yn 2001 yn 563. Y prif bentref yw Pierowall.
Ymhlith prif adeiladau'r ynys mae Castell Noltland. Cysylltir yr ynys a Kirkwall ar y brif ynys gan awyren. Gellir hefyd hedfan i ynys Papa Westray. Ceir gwasanaeth fferi i Kirkwall hefyd. Mae nifer fawr o adar mΓ΄r yn nythu ar glogwyni'r ynys, yn cynnwys 60,000 Gwylog a 30,000 Llurs.
Ymhlith y darganfyddiadau pwysicaf yn yr Alban mae "Links of Noltland", pentref Oes Newydd y Cerrig. Mae'r "Gwraig Westray" yn arteffact pwysig o'r safle.
Archie Angel
[golygu | golygu cod]Mae Westray wedi bod yn lleoliad llawer o longddrylliadau dros y canrifoedd. Yn y 1730au, drylliwyd llong Rwsiaidd yno. Roedd darn o'r llongddrylliad Γ’'r enw "Archangel" wedi'i ysgrifennu arno. Yr unig oroeswr oedd babi. Cafodd yr enw "Archie Angel" ac mae ei ddisgynyddion yn dal i fyw yn yr Ynysoedd Erch.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- β James Miller (1999). Salt in the Blood: Scotland's Fishing Communities Past and Present (yn Saesneg). Canongate. t. 6.
