| 👁 Image | |
| 👁 Image | |
| Math | tref, plwyf sifil 👁 Edit this on Wikidata |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Bwrdeistref Scarborough, Gogledd Swydd Efrog |
| Poblogaeth | 13,594, 13,130, 13,213 👁 Edit this on Wikidata |
| Gefeilldref/i | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Gogledd Swydd Efrog (Sir seremonïol) |
| Gwlad | 👁 Baner Lloegr Lloegr |
| Cyfesurynnau | 54.4858°N 0.6206°W 👁 Edit this on Wikidata |
| Cod SYG | E04007706 👁 Edit this on Wikidata |
| Cod OS | NZ893109 👁 Edit this on Wikidata |
| 👁 Map | |
Tref a phlwyf sifil yng Ngogledd Swydd Efrog, Swydd Efrog a Humber, Lloegr, ydy Whitby.[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Bwrdeistref Scarborough.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 13,213.[2]
Mae Caerdydd 375.2 km i ffwrdd o Whitby ac mae Llundain yn 331.6 km. Y ddinas agosaf ydy Efrog sy'n 66.1 km i ffwrdd.
Mae Avon Esk yn llifo trwy’r dref ac i’r harbwr. Mae Abaty Whitby ar ben bryn uwchben y dref; mae 199 o risiau yn arwain ato. Soniodd Bram Stoker am y dref yn ei nofel Dracula, cyhoeddwyd yn 1897. Mae pont droi yn cysylltu darnau gorllewinol a dwyreiniol y dref yn ymyl y harbwr. Mae Parc Pannett bron ynghanol y dref, ger yr amgueddfa ac oriel gelfyddyd. Mae arch asgwrn Morfil ar y clogwyn gorllewinol a cherflun o James Cook, yn wynebu’r harbwr. Roedd o’n brentis yn y tref, ac adeiladwyd ei gychod ar lannau’r Esk. Mae nifer o westai mawrion ar ben y clogwyn gorllewinol; mae’r dref wedi bod yn boblogaidd gyda thwristiaid ers yr oes Fictoria.[3]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ British Place Names; adalwyd 31 Awst 2020
- ↑ City Population; adalwyd 1 Medi 2020
- ↑ Gwefan visitwhitby.com
Dinasoedd
Efrog ·
Ripon
Trefi
Bedale ·
Bentham ·
Boroughbridge ·
Colburn ·
Easingwold ·
Filey ·
Grassington ·
Guisborough ·
Harrogate ·
Haxby ·
Helmsley ·
Ingleby Barwick ·
Kirkbymoorside ·
Knaresborough ·
Leyburn ·
Loftus ·
Malton ·
Masham ·
Middleham ·
Middlesbrough ·
Norton-on-Derwent ·
Northallerton ·
Pateley Bridge ·
Pickering ·
Redcar ·
Richmond ·
Saltburn-by-the-Sea ·
Scarborough ·
Selby ·
Settle ·
Skelton-in-Cleveland ·
Skipton ·
Stokesley ·
Tadcaster ·
Thirsk ·
Thornaby-on-Tees ·
·
Yarm
