VOOZH about

URL: https://cy.wikipedia.org/wiki/Wyn_Calvin

⇱ Wyn Calvin - Wicipedia


Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
Wyn Calvin
πŸ‘ Image
GanwydJoseph Wyndham Calvin-Thomas πŸ‘ Edit this on Wikidata

28 Awst 1925 πŸ‘ Edit this on Wikidata

Arberth πŸ‘ Edit this on Wikidata
Bu farw25 Ionawr 2022 πŸ‘ Edit this on Wikidata

Caerdydd πŸ‘ Edit this on Wikidata
DinasyddiaethπŸ‘ Baner Cymru
 Cymru
Galwedigaethactor, digrifwr, darlledwr, diddanwr πŸ‘ Edit this on Wikidata
Gwobr/auMBE, Urdd Sant Ioan πŸ‘ Edit this on Wikidata

Digrifwr ac actor o Gymru oedd Joseph Wyndham Calvin Thomas, neu Wyn Calvin (28 Awst 1926 – 25 Ionawr 2022).[1][2] Yn ystod ei yrfa hir, actiodd ar lwyfan a theledu: chwarae 'dame' mewn pantomeim, personoliaeth radio, cyflwyno sioe siarad ar deledu, siaradwr gwadd, darlithiwr, gwneud gwaith dyngarol ac ysgrifennu colofnau papur newydd[3] Gweithiodd gyda nifer o sΓͺr y diwydiant adloniant, gan gynnwys Harry Secombe, Bob Hope, Christopher Biggins, Shirley Bassey, Frankie Vaughan, Vic Morrow, Bud Flanagan, Roy Hudd, Max Boyce, Morecambe and Wise a Ken Dodd.[4]

Fe'i ganwyd yn Narberth yn un o wyth o blant. Pan oedd yn bum mlwydd oed, symudodd ei deulu i Gaerdydd lle mynychodd Ysgol Gynradd Kitchener Road ac yna Ysgol Uwchradd Canton (yr adeilad sydd nawr yn Ganolfan Gelfyddydau Chapter).

Yn 2021 dathlodd Calvin 75 mlynedd fel actor.[5]

Teledu

[golygu | golygu cod]
  • Look Who's Talking (1982)
  • The House of Eliott (1994)
  • On Show: Two Ton Tessie (2006)
  • Legends (2007)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ One of Wales’ greatest entertainers Wyn Calvin has died (en) , Nation Cymru, 25 Ionawr 2022.
  2. ↑ A life dedicated to show-business: Narberth born entertainer Wyn Calvin passes away (en) , Pembroke Observer, 25 Ionawr 2022.
  3. ↑ The incredibly colourful life of the Welshman celebrating 75 years in showbiz - Wales Online
  4. ↑ "Wyn Calvin celebrates 90th birthday and 70th year being an entertainer" (yn Saesneg). Wales Online. 1 Medi 2015.
  5. ↑ "Wyn Calvin's 75 years in showbiz feted by British Music Hall Society". Western Telegraph (yn Saesneg). 3 October 2021. Cyrchwyd 26 Ionawr 2022.
πŸ‘ Baner Cymru
πŸ‘ Eicon person
Eginyn erthygl sydd uchod am un o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.