VOOZH about

URL: https://cy.wikipedia.org/wiki/Y_Betws

⇱ Y Betws - Wicipedia


Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
Y Betws
👁 Image
Mathcymuned, pentref 👁 Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,175, 2,398, 1,834 👁 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin 👁 Edit this on Wikidata
Gwlad👁 Baner Cymru
 Cymru
Arwynebedd1,115.68 ha 👁 Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.787°N 3.982°W 👁 Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000492 👁 Edit this on Wikidata
Cod OSSN633116 👁 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruAdam Price (Plaid Cymru)
AS/au y DUAnn Davies (Plaid Cymru)
👁 Map
Am enghreifftiau eraill o enwau lleol sy'n cynnwys y gair Betws, gweler Betws (gwahaniaethu).

Pentref bychan a chymuned yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Y Betws.[1]

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Ann Davies (Plaid Cymru).[2][3]

Y gymuned

[golygu | golygu cod]

Gorwedd cymuned Y Betws rhwng Afon Aman, sydd i’r gogledd, ac Afon Cathan i’r De, sy’n dynodi’r ffin sirol rhwng Sir Gaerfyrddin a Sir Abertawe. O edrych i’r gorllewin, gwelir dyffryn eang y Llwchwr. Yna gwelir Mynydd y Betws, sy’n ffurfio ochr ddeheuol Dyffryn Aman, yn codi i uchder o 371m ym Mhenlle’r Castell, sydd dafliad carreg tu allan i’r ffin gymunedol.

Fel nifer o gymunedau eraill yn Nyffryn Aman, cafodd cyfnod y diwydiannau trymion gryn ddylanwad ar y Betws. Gwelwyd cyfnod pan oedd sawl gwaith glo yn y gymuned, ac roedd y bobl leol yn dibynnu ar y diwydiant glo am waith a bywoliaeth. Er fod gan y Betws nifer o nodweddion pentref glofaol bychan, sef y tai teras, y tafarndai, y capel a’r eglwys, gorwedd y gymuned wrth ymyl tir comin Mynydd y Betws, ac nid yw’r gymuned erioed wedi colli’r awyrgylch gwledig, ac mae llethrau mynydd y Betws yn frith o ffermydd, tyddynnod a bythynnod.

Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Betws (pob oed) (2,175) 100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Betws) (1,109) 53.4%
:Y ganran drwy Gymru 19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Betws) (1746) 80.3%
:Y ganran drwy Gymru 73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Betws) (338) 37.7%
:Y ganran drwy Gymru 67.1%

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. Gwefan y Cynulliad;[dolen farw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]
gw  sg  go
Trefi a phentrefi Sir Gaerfyrddin

Trefi
Caerfyrddin  · Castellnewydd Emlyn  · Cydweli  · Hendy-gwyn  · Llandeilo  · Llanelli  · Llanybydder  · Llanymddyfri  · Porth Tywyn  · Rhydaman  · Sanclêr  · Talacharn
Pentrefi
Aberarad  · Aberbowlan  · Abercrychan  · Abergorlech  · Abergwili  · Aber-nant  · Alltwalis  · Babel  · Bace  · Bancycapel  · Bancyfelin ·  · Bethlehem  · Blaengweche  · Blaenos  · Blaen-waun  · Blaen-y-coed  · Brechfa  · Broadway  · Bronwydd  · Bron-y-gaer  · Bryn  · Brynaman  · Bryn Iwan  · Bwlch-clawdd  · Bwlchnewydd  · Bynea  · Caeo  · Capel Dewi  · Capel Gwyn  · Capel Hendre  · Capel Isaac  · Capel Iwan  · Capel Seion  · Carmel  · Carwe  · Cefn-bryn-brain  · Cefneithin  · Cefn-y-pant  · Cenarth  · Cilgwyn  · Cilsan  · Cil-y-cwm  · Croesyceiliog  · Cross Hands  · Crug-y-bar  · Crwbin  · Cwm-ann  · Cwm-bach (1)  · Cwm-bach (2)  · Cwm-du  · Cwmduad  · Cwmfelin-boeth  · Cwmfelinmynach  · Cwmgwili  · Cwmhiraeth  · Cwmifor  · Cwmisfael  · Cwmllyfri  · Cwm-miles  · Cwm-morgan  · Cwm-pen-graig  · Cwrt-henri  · Cwrt-y-cadno  · Cynghordy  · Cynheidre  · Cynwyl Elfed  · Derwen-fawr  · Derwydd  · Dinas  · Dolgran  · Dre-fach  · Dre-fach Felindre · Dryslwyn  · Dyffryn Ceidrych  · Efail-wen  · Esgair  · Felin-foel  · Felin-gwm  · Felin-wen  · Foelgastell  · Ffair-fach  · Ffaldybrenin  · Ffarmers  · Fforest  · Ffynnon  · Garnant  · Garthynty  · Gelli-aur  · Gelli-wen  · Glanaman  · Glan Duar  · Glan-y-fferi  · Gorllwyn  · Gors-las  · Gwernogle  · Gwyddgrug  · Gwynfe  · Hebron  · Yr Hendy  · Henllan  · Henllan Amgoed  · Hermon  · Horeb  · Login  · Llanarthne  · Llanboidy · Llan-dawg  · Llandeilo Abercywyn  · Llandre (1)  · Llandre (2)  · Llandybïe  · Llandyfaelog  · Llandyry  · Llanddarog  · Llanddeusant  · Llanddowror  · Llanedi  · Llanegwad  · Llanfair-ar-y-bryn  · Llanfallteg  · Llanfihangel Aberbythych  · Llanfihangel Abercywyn  · Llanfihangel-ar-Arth  · Llanfihangel-uwch-Gwili  · Llanfynydd  · Llangadog  · Llan-gain  · Llangathen  · Llangeler  · Llangennech  · Llanglydwen  · Llangyndeyrn  · Llangynin  · Llangynnwr  · Llangynog  · Llanishmel  · Llanllawddog  · Llan-llwch  · Llanllwni  · Llanmilo  · Llannewydd  · Llannon  · Llanpumsaint  · Llansadwrn  · Llan-saint  · Llansawel  · Llansteffan  · Llanwinio  · Llanwrda  · Llan-y-bri  · Llanycrwys  · Llwyn-croes  · Llwynhendy  · Llwyn-y-brain (1)  · Llwyn-y-brain (2)  · Maenordeilo  · Maerdy  · Maes-y-bont  · Marros  · Meidrim  · Meinciau  · Merthyr  · Morfa  · Myddfai · Mynydd-y-garreg  · Nantgaredig  · Nant-y-caws  · New Inn  · Pant-gwyn  · Pantyffynnon  · Parc-y-rhos  · Pedair Heol  · Pen-boyr  · Pen-bre  · Pencader  · Pencarreg  · Peniel  · Penrherber  · Penrhiw-goch  · Pentrecagal  · Pentrecwrt  · Pentrefelin  · Pentre Gwenlais  · Pentre Tŷ-gwyn  · Pentywyn  · Pen-y-banc  · Pen-y-bont (1)  · Pen-y-bont (2)  · Pen-y-garn  · Pen-y-groes  · Pinged  · Plas  · Pont Aber  · Pontaman  · Pontantwn  · Pont-ar-Gothi  · Pont-ar-llechau  · Pont-ar-sais  · Pont Hafod  · Pont-henri  · Pont-iets  · Pont-tyweli  · Pontyberem  · Porth-y-rhyd  · Pum Heol  · Pumsaint  · Pwll  · Pwll-trap  · Ram  · Rhandir-mwyn  · Rhos  · Rhosaman  · Rhos-goch  · Rhos-maen  · Rhydargaeau  · Rhydcymerau  · Rhyd Edwin  · Rhydowen  · Rhyd-y-wrach  · Salem  · Sandy  · Sarnau  · Saron (1)  · Saron (2)  · Soar  · Sylen  · Taliaris  · Talog  · Talyllychau  · Tir-y-dail  · Trap  · Trefechan  · Trelech  · Trimsaran  · Twynllannan  · Tŷ-croes  · Y Tymbl  · Waunclunda  · Waun y Clyn  · Ystrad Ffin