VOOZH about

URL: https://cy.wikipedia.org/wiki/Y_Lliwedd

โ‡ฑ Y Lliwedd - Wicipedia


Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
Y Lliwedd
๐Ÿ‘ Image
Mathmynydd, copa ๐Ÿ‘ Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolParc Cenedlaethol Eryri ๐Ÿ‘ Edit this on Wikidata
Rhan o'r canlynolMasiff yr Wyddfa ๐Ÿ‘ Edit this on Wikidata
SirGwynedd ๐Ÿ‘ Edit this on Wikidata
Gwlad๐Ÿ‘ Baner Cymru
 Cymru
Uwch y mรดr898 metr ๐Ÿ‘ Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.1ยฐN 4.1ยฐW ๐Ÿ‘ Edit this on Wikidata
Cod OSSH6224553339 ๐Ÿ‘ Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd154 metr ๐Ÿ‘ Edit this on Wikidata
Cyfnod daearegolOrdofigaidd ๐Ÿ‘ Edit this on Wikidata
Rhiant gopaYr Wyddfa ๐Ÿ‘ Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddEryri ๐Ÿ‘ Edit this on Wikidata
๐Ÿ‘ Map

Mae'r Lliwedd (weithiau Lliwedd) yn fynydd sy'n rhan o fynyddoedd Yr Wyddfa yn Eryri.

Uchder

[golygu | golygu cod]

Mae ychydig yn is (898m) na chopa'r Wyddfa ei hun. Nid yw'n ddigon uchel i'w gyfrif ymysg y pedwar copa ar ddeg, ond mae'n ymddangos ar restrau Marilyn, Hewitt a Nuttall.

Daearyddiaeth

[golygu | golygu cod]
๐Ÿ‘ Image
Ochr ddwyreiniol y Lliwedd (gweler y copa i'r dde)

Mae Bwlch y Saethau yn gwahanu'r Lliwedd a'r Wyddfa. Ychydig ymhellach ar hyd y grib o'r Lliwedd mae Lliwedd Bach, yna copa is Gallt y Wenallt, lle mae'r grib yn gorffen. Ar ochr ogledd-ddwyreiniol y mynydd mae clogwyni serth uwchben Glaslyn a Llyn Llydaw. Roedd y clogwyni yma yn arbennig o boblogaidd gyda dringwyr flynyddoedd yn รดl. Ar yr ochr dde-orllewinol mae Cwm Llan, a thu draw iddo Yr Aran.

Llwybrau

[golygu | golygu cod]
๐Ÿ‘ Image
Y Lliwedd

Gellir dringo Lliwedd o Ben y Pas, ond mae'r rhan fwyaf o'r rhai sy'n cyrraedd y copa yn gwneud hynny fel rhan o Bedol yr Wyddfa, sy'n cynnwys Crib Goch a chopa'r Wyddfa ei hun yn y daith. Gellir hefyd gyrraedd y copa trwy ddilyn llwybr Watkin o Bont Bethania ger Beddgelert ond troi i'r dde cyn dechrau ar y darn olaf o'r llwybr i gopa'r Wyddfa.

Mewn llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]

Lliwedd oedd pwnc y llawlyfr dringo (yn hytrach na cherdded mynyddoedd) cyntaf i'w gyhoeddi ar Ynysoedd Prydain yn 1909, The climbs on Lliwedd gan J. M. A. Thomson ac A. W. Andrews.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Dolennau allanol

[golygu | golygu cod]