VOOZH about

URL: https://cy.wikipedia.org/wiki/Ynysoedd_Ffaro

⇱ Ynysoedd Ffaro - Wicipedia


Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
Ynysoedd Ffaro
👁 Image
👁 Image
Mathgwlad ymreolaethol o fewn Brenhiniaeth Denmarc, etholaeth 👁 Edit this on Wikidata
PrifddinasTórshavn 👁 Edit this on Wikidata
Poblogaeth54,149 👁 Edit this on Wikidata
SefydlwydRefferendwm: 14 Medi 1946
Denmarc yn Datgan Annibyniaeth: 23 Mawrth 1948
AnthemTú alfagra land mítt 👁 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethAksel V. Johannesen 👁 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+00:00 👁 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Ffaröeg, Daneg 👁 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolBrenhiniaeth Denmarc, undod y Deyrnas, Gogledd Ewrop 👁 Edit this on Wikidata
SirBrenhiniaeth Denmarc 👁 Edit this on Wikidata
Gwlad👁 Baner Denmarc
 Denmarc
Arwynebedd1,399 km² 👁 Edit this on Wikidata
GerllawMôr Norwy 👁 Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaGwlad yr Iâ 👁 Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau61.9699°N 6.8445°W 👁 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholLøgting 👁 Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethFrederik X, brenin Denmarc 👁 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Ynysoedd Ffaro 👁 Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethAksel V. Johannesen 👁 Edit this on Wikidata
👁 Map
👁 Image
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$3,650 million 👁 Edit this on Wikidata
CMC y pen$3,000 million 👁 Edit this on Wikidata
ArianFaroese króna 👁 Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant2.6 👁 Edit this on Wikidata

Ynysfor yng Ngogledd Ewrop rhwng Môr Norwy a Chefnfor yr Iwerydd yw Ynysoedd Ffaro[1] (Ffaröeg: Føroyar, Daneg: Færøerne). Arwynebedd y tir yw 1400 km² ac mae'r boblogaeth oddeutu 54,149 (1 Ionawr 2023)[2], sydd tuag 20,000 yn llai nag Ynys Môn. Y brifddinas yw Tórshavn (neu Thorhavn), ar ynys Streymoy. Mae'r ynysoedd yn gorwedd tua hanner ffordd rhwng Norwy, Gwlad yr Iâ a'r Alban.

Mae Ynysoedd Ffaro yn dalaith hunanlywodraethol o Ddenmarc ers 1948 gan gymryd cyfrifoldeb am y rhan fwyaf o'u materion, ac eithrio amddiffyn a materion tramor.

Daearyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Tórshavn yw'r brifddinas, ac mae ganddi boblogaeth o 19,000; yr ail ddinas yw Klaksvik sydd â phoblogaeth o tua 6,000. Mae trwch gweddill y boblogaeth wedi'i gwasgaru ymysg y pentrefi arfordirol. Mae pobl yn byw ar 17 o'r 22 ynys. Y prif ynysoedd yw Streymoy, Eysturoy, a Vágar. Mae'r rhan fwyaf o'r ynysoedd yn fryniog ac mae'r gweithgareddau amaethyddol yn gyfyngedig i fagu defaid a thyfu tatws. Mae pysgota a phrosesu pysgod yn ddiwydiannau o bwys.

Ardal yr ynysoedd yw 1,399 cilomedr sgwâr (540 mi.sg), ac nid oes afonydd na llynnoedd o bwys. Mae 1,117 cilomedr (694 mi) o arfordir, ac nid oes ffin tirol gydag unrhyw wlad arall. Yr unig ynys fawr sydd heb drigolion arni yw Lítla Dímun.

Demograffeg

[golygu | golygu cod]

Cyrhaeddodd yr ynys boblogaeth o 50,000 am y tro cyntaf erioed yn ei hanes yng nghanol 2017.[3] Mae'r llywodraeth wedi ceisio delio gydag allfudo, yn enwedig allfudo menywod ifanc, a bydd nifer o ddynion yn canlyn gwragedd o Ynysoedd y Ffilipinau i fod i'w priodi.[4] Mae ymdrechion i geisio gymathu newydd-ddyfodiaid i iaith unigryw a diwylliant yr ynysoedd.[5]

Daeth trigolion gwreiddiol yr ynysoedd yno adeg y Llychlynwyr; mae hanes y drefedigaeth i'w chael yn y Færeyinga Saga.

👁 Image
Porkeri, Ynysoedd Faroe

Diwylliant

[golygu | golygu cod]

Mae diwylliant yr ynysoedd yn hanu o olion o'r hen ddiwylliant Lychlyn Scandinafia wedi'u cymysgu â diwylliant draddodiadol ffermio a physgota cynhaliol.

Iaith gynhenid, a bellach prif iaith swyddogol yr ynys, ydyw'r Ffaröeg, iaith Germanaidd sy'n ymdebygu rhywfaint i'r Islandeg. Dethlir diwrnod nawddsant yr Ynysoedd, Ólavsøka ('Gwylnos Sant Olaff') ar 29 Gorffennaf. Ceir cyfres o ddigwyddiadau yn arwain at y diwrnod. Ar yr 29ain fe agorir Senedd y wlad: y Logting.

Ceir Coleg trydyddol a galwedigaethol, Glasir a Prifysgol Ynysoedd Ffaro ar yr ynysoedd, a Ffaröeg yw iaith gweinyddu ac addysgu'r sefydliadau yma gan fwyaf.

Gwleidyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Wedi'r Ail Ryfel Byd pan meddiannwyd yr Ynysoedd gan luoedd Prydain, cafodd yr Ynyswyr flas ar fod yn hunanlywodraethol gan i Ddenmarc cael ei meddiannu gan y Natsïaid. Yn sgil hyn cafwyd Refferendwm ar Annibyniaeth yn 1948. Er i'r mwyafrif bleidleisio dros annibyniaeth, penderfynodd Denmarc beidio ag ildio'n llawn gan roi elfen gref o hunanlywodraeth yn lle.

Ceir trafodaeth gyson ar ddatganoli a bu bwriad cynnal refferendwm ar annibyniaeth yn 2018 [6] ond ni ddaeth hyn i law. Serch hynny mae'r drafodaeth dros ragor o bwerau yn un byw.

Bu'r ynysoedd yn destun chwilfrydedd ac ysbrydoliaeth i genedlaetholwyr Albanaidd sydd eisiau annibyniaeth i'r Alban gan fod yn destun ffilm fer gan y newyddiadurwraig, Lesley Riddoch yn 2018.[7]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]