VOOZH about

URL: https://cy.wikipedia.org/wiki/Belarwsiaid

โ‡ฑ Belarwsiaid - Wicipedia


Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
Belarwsiaid
๐Ÿ‘ Image
Hen ffotograff o'r werin Felarwsiaidd o ardal Babruysk.
Cyfanswm poblogaeth
9โ€“10 miliwn
Ardaloedd gyda niferoedd sylweddol
Belarws, Rwsia, Wcrรกin, Latfia, Casachstan, Gwlad Pwyl, Lithwania
Ieithoedd
Belarwseg, Rwseg
Crefydd
Eglwys Uniongred Ddwyreiniol, Yr Eglwys Babyddol
Grwpiau ethnig perthynol
Rwsiaid, Wcreiniaid, Rwtheniaid

Cenedl a grลตp ethnig Slafig sydd yn frodorol i wlad Belarws yn Nwyrain Ewrop yw'r Belarwsiaid. Belarwseg yw eu hiaith frodorol, er bod Rwseg yn iaith ddyddiol y mwyafrif erbyn heddiw. Maent yn cyfrif am ryw 84% o boblogaeth Belarws. Maent yn un o'r bobloedd Slafig Ddwyreiniol ac yn perthyn yn agos i'r Rwsiaid, yr Wcreiniaid a'r Rwtheniaid.

Diwylliant

[golygu | golygu cod]

Mae gwybodaeth o lรชn gwerin yn parhau yng nghefn gwlad Belarws, er bod nifer o hen draddodiadau'r werin wedi darfod o ganlyniad i drefoli.

Crefydd

[golygu | golygu cod]

Mae'r mwyafrif o Felarwsiaid yn aelodau'r Eglwys Uniongred Ddwyreiniol. Yn hanesyddol, yr Eglwys Uniongred Rwsiaidd oedd y brif eglwys ym Melarws, a dim ond ychydig o offeiriaid oedd yn pregethu drwy gyfrwng y Felarwseg.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]