VOOZH about

URL: https://cy.wikipedia.org/wiki/Manawiaid

โ‡ฑ Manawiaid - Wicipedia


Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
Manawiaid
Enghraifft o:grลตp ethnig ๐Ÿ‘ Edit this on Wikidata
MathGaeliaid ๐Ÿ‘ Edit this on Wikidata
Poblogaeth95,788 ๐Ÿ‘ Edit this on Wikidata
GwladwriaethYnys Manaw, y Deyrnas Unedig, Canada ๐Ÿ‘ Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/097r55 ๐Ÿ‘ edit this on wikidata
๐Ÿ‘ Tudalen Comin
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cenedl a grลตp ethnig sydd yn frodorol i Ynys Manaw yw'r Manawiaid. Pobl Geltaidd ydynt sydd yn disgyn o'r Gaeliaid, a bu cryn dylanwad ar eu hanes a'u diwylliant gan y Llychlynwyr a'r Saeson yn ogystal รข'u cyd-Geltiaid y Gwyddelod, yr Albanwyr, a'r Cymry. Yn hanesyddol, Manaweg oedd eu hiaith frodorol, a bu'r iaith honno ar fin farw yn yr 20g, ond bellach mae rhywfaint o adfer yr iaith ar yr ynys.

Yn รดl cyfrifiad 2011, mae bron 85,000 o bobl yn byw yn Ynys Manaw, ond dim ond 47.6% a aned ar yr ynys, ac mae nifer o'r rheiny yn disgyn o fewnfudwyr o Loegr. Gellir dweud felly bod y Manawiaid yn lleiafrif yn eu gwlad eu hunain.