VOOZH about

URL: https://cy.wikipedia.org/wiki/Bro-Zol

⇱ Bro-Zol - Wicipedia


Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
Bro-Zol
👁 Image
Mathpays de Bretagne 👁 Edit this on Wikidata
PrifddinasDol 👁 Edit this on Wikidata
Poblogaeth51,752 👁 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolLlydaw Uchel 👁 Edit this on Wikidata
GwladFfrainc 👁 Edit this on Wikidata
Arwynebedd637 km² 👁 Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau48.550556°N 1.749722°W 👁 Edit this on Wikidata
👁 Map
👁 Image
Map Bro-Zol

Mae Bro Dol neu yn y Llydaweg, treiglir enw'r lle, Bro-Zol (Ffrangeg: Pays de Dol) yn un o naw bro hanesyddol Llydaw. Ei phrifddinas yw Dol, neu yn Ffrangeg, Dol-de-Bretagne.

Mae'n cynnwys ardal o 637km2, sy'n cyfateb i ogledd-ddwyrain y Département, Il-ha-Gwilen (Ille-et-Vilaine). Roedd ganddi boblogaeth o 55,300 yn 2012.[1] Dyma fro lleiaf Llydaw o ran maint a phoblogaeth. Mae'n ffinio â Normandi i'r dwyrain. Ceir 43 cymuned (Llydaweg: kumunioù; Ffrangeg: commune) yn ym Mro Dol.

Baneri Bro

[golygu | golygu cod]

Ceir Baneri bro Llydaw eu chwifio yn aml mewn digwyddiadau cyhoeddus ac ar adeiladau cyhoeddus yn nhrefi a phentrefi'r fro.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Dolenni

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ["Lec'hienn Geobreizh
    "
    . Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-07. Cyrchwyd 2020-05-16.
    Lec'hienn Geobreizh
    ]
  2. Mae'r faner yn cynrychioli draig goch wedi'i gosod ar groes ddu ar gefndir melyn. Y groes ddu ar gefndir melyn oedd arwyddlun Sant Erwan. Y ddraig oedd arwyddlun Sant Tudwal, un o saith sant sylfaenwyr Llydaw. Hynodrwydd y ddraig: nid oes ganddi goesau ôl, mae rhan gefn gyfan y corff yn cynrychioli cynffon anifail morol gwych.
👁 Image
Eginyn erthygl sydd uchod am Lydaw. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.