VOOZH about

URL: https://cy.wikipedia.org/wiki/Caerwys

⇱ Caerwys - Wicipedia


Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
Caerwys
👁 Image
Mathtref, cymuned 👁 Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,243, 1,315, 1,283 👁 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir y Fflint 👁 Edit this on Wikidata
Gwlad👁 Baner Cymru
 Cymru
Cyfesurynnau53.246°N 3.307°W 👁 Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000183 👁 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ128729 👁 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruHannah Blythyn (Llafur)
AS/au y DUBecky Gittins (Llafur)
👁 Map

Tref fechan a chymuned yn Sir y Fflint, Cymru, yw Caerwys.[1][2] Saif 8 km (5 milltir) i'r de-orllewin o Dreffynnon. Yng Nghyfrifiad 2001 roedd y boblogaeth yn 1,315.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hannah Blythyn (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Becky Gittins (Llafur).[4]

👁 Image
Caerwys

Credai rhai archaeolegwyr a hynafiaethwyr fod y dref yn sefyll ar safle hen gaer Rufeinig Varis, ond erbyn heddiw credir mai ger Llanelwy oedd y safle. Mae enw'r dref yn golygu "caer y gwysiau", ac efallai'n deillio o'r ffaith fod llys yn cael ei chynnal yno hyd y 16g.

👁 Image
'Butter Place'; tua 1875.

Cynhaliwyd dwy eisteddfod bwysig yng Nghaerwys yn 1523 a 1567 i bennu rheolau Cerdd Dafod a Cherdd Dant ac i roi trefn ar feirdd a chantorion. Roedd nifer o feirdd gorau'r cyfnod, fel Tudur Aled, Simwnt Fychan a Gruffudd Hiraethog, yn bresennol. (Am fanylion pellach gweler: Eisteddfod Caerwys 1523 ac Eisteddfod Caerwys 1567).

Mae cysylltiad agos rhwng Caerwys â Philadelphia. Hwyliodd meddyg lleol, Thomas Wynne, mewn llong o'r enw Welcome yn 1682 gyda William Penn. Roedd Wynne yn un o sefydlwyr Philadelphia a daeth yn gadeirydd (neu 'Siaradwr') cyntaf y cynulliad cenedlaethol yno yn ogystal â bod yn farnwr rhanbarthol. Seiliwyd cynllun stryd gwreiddiol Philadelphia ar Gaerwys.[5] Mae enwau Cymraeg i'w gweld ym mhobman yno, ac mae llawer o'r adeiladau yn gopiau o adeiladau a geir yng Nghaerwys.[6]

Yr eglwys

[golygu | golygu cod]

Er nad yw'r eglwys bresennol yn hen iawn nid yw heb ddiddordeb. Fe'i cysegrir i Fihangel Sant. Mae'r bedyddfaen yn dyddio o 1661 a cheir sgriniau pren hynafol yng nghapel y gogledd. Un o'r creiriau mwyaf diddorol yw clawr arch garreg ac arno ffigwr cerfiedig gwraig, sydd efallai i'w dyddio i'r 13g. Yn ôl traddodiad lleol, claddwyd Elizabeth Ferrers, sef gwraig i Dafydd ap Gruffudd, yn yr eglwys.

Enwogion

[golygu | golygu cod]

Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[7][8][9]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Caerwys (pob oed) (1,283) 100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Caerwys) (240) 19.4%
:Y ganran drwy Gymru 19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Caerwys) (729) 56.8%
:Y ganran drwy Gymru 73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Caerwys) (184) 32.3%
:Y ganran drwy Gymru 67.1%

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 13 Ionawr 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-08. Cyrchwyd 2009-03-22.
  6. [1] Papur lleol - Vale Advertiser
  7. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  9. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
gw  sg  go
Trefi a phentrefi Sir y Fflint

Trefi
Bagillt  · Bwcle  ·  · Cei Connah  · Y Fflint  · Queensferry  · Saltney  · Shotton  · Treffynnon  · Yr Wyddgrug
Pentrefi
Abermor-ddu  · Afon-wen  · Babell  · Bretton  · Brychdyn  · Brynffordd  · Caergwrle  · Carmel  · Cefn-y-bedd  · Cilcain  · Coed-llai  · Coed-talon  · Cymau  · Chwitffordd  · Ewlo  · Ffrith  · Ffynnongroyw  · Gorsedd  · Gronant  · Gwaenysgor  · Gwernymynydd  · Gwernaffield  · Gwesbyr  · Helygain  · Higher Kinnerton  · Yr Hôb  · Licswm  · Llanasa  · Llaneurgain  · Llanfynydd  · Llannerch-y-môr  · Maes-glas  · Mancot  · Mostyn  · Mynydd Isa  · Mynydd-y-Fflint  · Nannerch  · Nercwys  · Neuadd Llaneurgain  · Oakenholt  · Pantasaph  · Pant-y-mwyn  · Penarlâg  · Pentre Helygain  · Pen-y-ffordd  · Pontblyddyn  · Pontybotgyn  · Rhes-y-cae  · Rhosesmor  · Rhyd Talog  · Rhyd-y-mwyn  · Sandycroft  · Sealand  · Sychdyn  · Talacre  · Trelawnyd  · Trelogan  · Treuddyn  · Ysgeifiog