VOOZH about

URL: https://cy.wikipedia.org/wiki/Treffynnon

⇱ Treffynnon - Wicipedia


Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
Treffynnon
👁 Image
Mathtref, cymuned 👁 Edit this on Wikidata
Poblogaeth8,886, 9,225, 8,715 👁 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iSant-Gregor 👁 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir y Fflint 👁 Edit this on Wikidata
Gwlad👁 Baner Cymru
 Cymru
Cyfesurynnau53.274°N 3.223°W 👁 Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000192 👁 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ185755 👁 Edit this on Wikidata
Cod postCH8 👁 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruHannah Blythyn (Llafur)
AS/au y DUBecky Gittins (Llafur)
👁 Map
Am y pentref o'r un enw yn Sir Benfro, gweler Treffynnon, Sir Benfro.

Tref a chymuned yn Sir y Fflint, Cymru, yw Treffynnon (Saesneg: Holywell). Saif yn agos i lan orllewinol Glannau Dyfrdwy ar briffordd yr A5026, tua hanner ffordd rhwng Prestatyn i'r gogledd a'r Wyddgrug i'r de, tua 5 milltir o dref Y Fflint. Mae'r hen dref yn gorwedd ar un o lethrau is Mynydd Helygain. Mae'r dref yn enwog fel lleoliad Ffynnon Gwenffrewi a'i chapel, sy'n ganolfan pererindod i Gatholigion ac eraill ers canrifoedd lawer.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hannah Blythyn (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Becky Gittins (Llafur).[1][2]

Ffynnon Wenffrewi

[golygu | golygu cod]

Yn ôl traddodiad roedd Gwenffrewi (neu Gwenfrewi) yn nith i Sant Beuno. Syrthiodd tywysog o'r enw Caradog mewn cariad â hi ond gwrthododd y forwyn ei dderbyn. Ceisiodd Caradog dreisio Wenffrewi ac yna dorrodd ei phen. Daeth Beuno heibio a rhoi pen Gwenffrewi yn ôl ar ei chorff, trwy wyrth, a ffrydiodd ffynnon o'r ddaear lle syrthiasai pen y santes. Byth ers hynny mae'r ffynnon wedi bod yn gyrchfa i bererinion.

Mae adeiladau Ffynnon Wenffrewi heddiw yn dyddio i 1490-1500 pan gafodd ei godi gan yr Arglwyddes Margaret Beaufort, mam Harri Tudur. Mae'n adeilad deniadol iawn. Delir dŵr y ffynnon mewn llestr ar siâp seren ac mae saith piler paneledig yn codi ohono i'r to siâp gwyntyll gan ffurfio rhodfa oddi amgylch y ffynnon. Mae'r pererinion yn cymryd dŵr i ffwrdd o'r ffynnon, sy'n byrlymu'n gryf, mewn poteli i'w yfed nes ymlaen neu yn y man.[3]

Ger y ffynnon ceir capel y ffynnon, sy'n dyddio i'r 15g. Cafodd ei atgyweirio yn 1967.

👁 Image
Ffynnon Wenffrewi

Y tu ôl i gapel y ffynnon ceir eglwys y plwyf, a gysegrir i'r apostol Sant Iago. Credir ei bod yn sefyll ar safle adeilad llawer cynharach ar safle'r eglwys a godwyd gan Sant Beuno yn y 7g. Mae'r tŵr yn dyddio i'r 14g ond mae gweddill yr adeilad yn perthyn i ddiwedd y 18g.

Mae Ffynnon Gwenffrewi yn un o Saith Rhyfeddod Cymru, yn ôl yr hen rigwm

Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Treffynnon (pob oed) (8,886) 100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Treffynnon) (1,192) 14%
:Y ganran drwy Gymru 19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Treffynnon) (6066) 68.3%
:Y ganran drwy Gymru 73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Treffynnon) (1,486) 39.5%
:Y ganran drwy Gymru 67.1%

Gorsaf Cyffordd Treffynnon

[golygu | golygu cod]
👁 Image
Gorsaf Cyffordd Treffynnon ar linell Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru

Agorwyd yr orsaf ym 1848 a daeth i ben yn 1966. Mae'r llinell drwy'r orsaf yn dal ar agor.

Atyniadau yn y cyffiniau

[golygu | golygu cod]

Enwogion

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen farw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. "Ffynnon Gwenffrewi", BBC Cymru; adalwyd 25 Mai 2022
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
gw  sg  go
Trefi a phentrefi Sir y Fflint

Trefi
Bagillt  · Bwcle  · Caerwys  · Cei Connah  · Y Fflint  · Queensferry  · Saltney  · Shotton  ·  · Yr Wyddgrug
Pentrefi
Abermor-ddu  · Afon-wen  · Babell  · Bretton  · Brychdyn  · Brynffordd  · Caergwrle  · Carmel  · Cefn-y-bedd  · Cilcain  · Coed-llai  · Coed-talon  · Cymau  · Chwitffordd  · Ewlo  · Ffrith  · Ffynnongroyw  · Gorsedd  · Gronant  · Gwaenysgor  · Gwernymynydd  · Gwernaffield  · Gwesbyr  · Helygain  · Higher Kinnerton  · Yr Hôb  · Licswm  · Llanasa  · Llaneurgain  · Llanfynydd  · Llannerch-y-môr  · Maes-glas  · Mancot  · Mostyn  · Mynydd Isa  · Mynydd-y-Fflint  · Nannerch  · Nercwys  · Neuadd Llaneurgain  · Oakenholt  · Pantasaph  · Pant-y-mwyn  · Penarlâg  · Pentre Helygain  · Pen-y-ffordd  · Pontblyddyn  · Pontybotgyn  · Rhes-y-cae  · Rhosesmor  · Rhyd Talog  · Rhyd-y-mwyn  · Sandycroft  · Sealand  · Sychdyn  · Talacre  · Trelawnyd  · Trelogan  · Treuddyn  · Ysgeifiog